Mater - cyfarfodydd

Review of Ysgol y Graig and Ysgol Talwrn Catchment Areas

Cyfarfod: 18/07/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Moderneiddio Ysgolion Môn – Adolygu Dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn cynnwys adolygiad o ddalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg. Roedd yr adolygiad o ddalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig yn rhan o'r cynnig a gytunwyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr, 2020 i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y ddau opsiwn posibl, hynny yw, trosglwyddo rhan yng ngogledd a de dalgylch presennol Ysgol Talwrn i ddalgylchoedd Ysgol Llanbedrgoch ac Ysgol Pentraeth yn y drefn honno a chyfuno'r gweddill â dalgylch Ysgol y Graig (opsiwn 1), a'r opsiwn arall fyddai cyfuno'r cyfan o ddalgylch presennol Ysgol Talwrn â dalgylch Ysgol y Graig (opsiwn 2). Yn seiliedig ar ddadansoddiad o fanteision ac anfanteision pob opsiwn fel y nodir yn yr adroddiad, yr opsiwn a ffefrir yw opsiwn 2 ar sail y rhesymeg bod Ysgol y Graig yn yr un dalgylch uwchradd ag Ysgol Talwrn, bydd disgyblion yn trosglwyddo i'r un ysgol uwchradd efo'u ffrindiau ac o bosibl eu brodyr a’u chwiorydd hŷn. Mae Opsiwn 2 hefyd yn fwy cost effeithlon i'r Cyngor a bydd yn lleihau allyriadau carbon.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Opsiwn 2 sef cyfuno dalgylch presennol Ysgol Talwrn gyda dalgylch Ysgol y Graig.