6 Polisi a Strategaeth Rheoli Risg PDF 2 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo’r Polisi a Strategaeth Rheoli Risg.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Polisi a'r Strategaeth Rheoli Risg i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid. Mae'r polisi rheoli risg, y strategaeth a'r canllawiau cysylltiedig yn amlinellu egwyddorion a dull Cyngor Sir Ynys Môn o reoli risg a'r nod yw darparu proses gyson sy'n sail i'r gwaith o reoli risg ledled y Cyngor, sy'n adlewyrchu lefel a natur ei wahanol swyddogaethau, a defnyddio sgiliau a gallu i'r eithaf. Mae'r polisi a'r strategaeth yn berthnasol i holl weithwyr ac aelodau'r Cyngor. Dylid annog unrhyw sefydliadau partner i groesawu'r egwyddorion sydd yn y dogfennau. Cafodd y polisi a'r strategaeth rheoli risg eu hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, 2023.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn diweddaru polisi a strategaeth rheoli risg y Cyngor a chadarnhaodd nad oedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi argymell unrhyw newidiadau i'r polisi na'r strategaeth yn sgil adolygu'r dogfennau. Mae rheoli risg yn rhan annatod o swyddogaethau'r Cyngor ac mae'n berthnasol i bob rhan o fusnes y Cyngor. Mae'r Gofrestr Risg Strategol yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y Tîm Arweinyddiaeth.
Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo’r Polisi a Strategaeth Rheoli Risg.