10.1 VAR/2023/37 – Yr Erw, Llansadwrn
10.2 FPL/2023/23 – Bryn Tawel, Ty Croes
10.3 VAR/2023/15 – Llain Capelulo, Pentre Berw
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 VAR/2023/37 – Cais dan Adran 73A i ddiwygio amod (09) (Cynlluniau cymeradwy) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2019/32 (codi annedd) er mwyn caniatau diwygiad i'r dyluniad yn Yr Erw, Llansadwrn.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 FPL/2023/23 – Cais llawn ar gyfer codi garej ar wahân ynghyd â newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd dan gyfeirnod cais cynllunio 28C257B/DA yn Bryn Tawel, Ty Croes
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.3 VAR/2023/15 – Cais dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (06) (Cynlluniau wedi eu cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod VAR/2018/14 (Codi 3 annedd ar blotiau 8,9 a 10) er mwyn diwygio’r lleoliad a chyfeiriad y 3 annedd yn Llain Capelulo, Pentre Berw, Gaerwen
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod na fyddai unrhyw gynrychiolaethau newydd yn cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod ail ymgynghori ar 8 Medi 2023.
Cofnodion:
10.1 VAR/2023/37 – Cais dan Adran 73A i ddiwygio amod (09) (Cynlluniau cymeradwy) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2019/32 (codi annedd) er mwyn caniatáu diwygiad i'r dyluniad yn Yr Erw, Llansadwrn.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn mynd yn erbyn polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod egwyddor y datblygiad hwn yn y lleoliad hwn eisoes wedi’i gymeradwyo gan ganiatâd cynllunio blaenorol a chyhoeddwyd tystysgrif cyfreithlondeb ar 15 Hydref, 2018. Oherwydd hyn, mae’r caniatâd cynllunio ar gyfer codi annedd wedi’i ddiogelu’n barhaol. Mae’r cais hwn yn ceisio caniatâd ar gyfer gwneud addasiadau i ddyluniad yr annedd. Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at yr addasiadau hynny, fel y nodir yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog a chadarnhaodd gan nad oedd problemau goredrych, ystyrir bod yr addasiadau’n dderbyniol ac yn gwella’r cynlluniau cyffredinol a gymeradwywyd yn flaenorol. Felly, argymhellir cymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Neville Evans.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 FPL/2023/23 – Cais llawn ar gyfer codi garej ar wahân ynghyd â newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd dan gyfeirnod cais cynllunio 28C257B/DA yn Bryn Tawel, Ty Croes.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn mynd yn erbyn polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor ar gyfer datblygu’r safle eisoes wedi’i gymeradwyo dan ganiatâd cynllunio blaenorol, ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y safle gan gynnwys adeiladu mynedfa i gerbydau a chodi annedd hyd at lefel y to yn rhannol. Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau cynllunio sef effaith yr addasiadau arfaethedig ar yr annedd, a garej ar wahân newydd ar yr annedd a gymeradwywyd yn flaenorol, yn ogystal a’r effaith ar anheddau a’r ardal gyfagos. Mae’r addasiadau arfaethedig yn cynnwys codi uchder crib y to o 6.6m i 7.7m, disodli’r ddwy ffenestr dormer ar y drychiad blaen gyda goleuadau to a chael gwared ar dormer y to yn y cefn. Mae dyluniad ac ymddangosiad yr annedd yn debyg iawn i’r annedd a gymeradwywyd yn flaenorol, ac mae’n cyd-fynd ag eiddo cyfagos o ran graddfa a chymeriad, ac felly fe’u hystyrir yn dderbyniol. Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at ddimensiwn y garej ar wahân arfaethedig, a chadarnhawyd ei fod dderbyniol o ran ei leoliad, graddfa, dyluniad ac ymddangosiad gan na fyddai’n cael effaith negyddol ar y safle presennol nac ar eiddo cyfagos, ac mae’n cydymffurfio gyda’r polisïau cynllunio perthnasol. Felly, argymhellir cymeradwyo’r cais.
Bu i’r Cynghorydd Neville Evans, gan weithredu fel Aelod Lleol, gadarnhau nad oedd wedi derbyn unrhyw gynrychiolaethau ynghylch y cynnig, ac nad oedd y Cyngor Cymuned wedi codi unrhyw bryderon. Cynigiodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10