Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 06/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 445 KB

13.1 Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

13.2 Gorchymyn Rheoleiddio TraffigCemaes

 

13.3 Gorchymyn Rheoleiddio TraffigRhostrehwfa

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1 Land and Lakes Ltd

 

Penderfynwyd cefnogi’r safbwynt fel y manylwyd yn adroddiad y Swyddog.

 

13.2 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Cemaes

 

Penderfynwyd –

 

·     Cymeradwyo’r cynigion yn unol â’r gorchmynion a chynlluniau a gyflwynwyd a

·     Cytuno bod hyd y ffordd rhwng ystâd Gwelfor a chylchfan yr A5025 yn cadw’r cyfyngiad o 30mya fel y nodwyd yn y Gorchymyn drafft, ac i gadarnhau’r gorchymyn drafft hwn a’r gorchmynion drafft eraill yn yr adroddiad.

 

13.2 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Rhostrehwfa

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig yn unol a’r Gorchmynion a’r cynlluniau a gyflwynwyd, ac I’r Awdurdod barhau i gymeradwyo’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a chynlluniau.

 

Cofnodion:

13.1   Land and Lakes, Parc Arfordir Penrhos, Caergybi

 

Cafodd y mater ei gyflwyno unwaith eto i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei ystyried yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2023 yng ngoleuni llythyr a dderbyniwyd gan Richard Buxton Solicitors ar gyfer preswylydd lleol sy’n honni bod y Pwyllgor wedi cael ei gamgyfeirio mewn perthynas â sawl mater.

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr gan Richard Buxton Solicitors wedi’i dderbyn yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ceisiadau Land and Lakes ar 7 Mehefin 2023. Mae’r llythyr yn honni fod y Pwyllgor wedi cael ei gamgyfeirio mewn perthynas â sawl mater. Er bod Swyddogion yn hyderus bod y mater wedi’i adrodd yn briodol i’r Pwyllgor, a bod Aelodau’n ymwybodol o’r materion a gyflwynwyd iddynt i’w hystyried, manteisir ar y cyfle i gyfeirio at rai o’r materion hynny ac i gadarnhau’r penderfyniad a wnaed a sylfaen y penderfyniad hwnnw. Mae’n amlwg y bydd y gwrthwynebwyr yn herio’r penderfyniad, mae’r adroddiad yn gyfle I ddelio â rhai o’r materion a godir yn y llythyr. Gofynnir i aelodau adolygu’r adroddiad fel adlewyrchiad o’r penderfyniad maent wedi’i wneud.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones bod cyn weithiwr o Anglesey Aluminium wedi anfon llythyr ato, a’i fod yn dymuno ei ddarllen yn y Pwyllgor. Roedd wedi hysbysu’r Rheolwr Rheoli Datblygu o’r llythyr ac roedd yn disgwyl am ei ymateb.

Bu i’r Cadeirydd wrthod y cais i ddarllen y llythyr, gan nodi bod ceisiadau Land and Lakes wedi cael eu trafod yn helaeth yn ystod mwy nag un cyfarfod, a bod penderfyniad wedi’i wneud. Nid yw cynnwys y llythyr yn berthnasol i’r mater sy’n cael ei ystyried heddiw, sef bod aelodau’r Pwyllgor yn cadarnhau eu bod wedi deall yr hyn roeddynt yn pleidleisio yn ei gylch yn y cyfarfod ar 7 Mehefin 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd yn credu ei bod hi’n gywir na theg nad oedd y Cynghorydd Robert. Llywelyn Jones yn cael darllen y llythyr yr oedd wedi cyfeirio ato. Roedd hefyd o’r farn fod y diffyg hyder a achosir drwy atal pobl penodol rhag siarad yn cyfrannu at ymestyn y mater, ac er ei fod o’r farn y dylid rhoi cyfle i ddarllen y llythyr, byddai’n dilyn safbwynt y Cadeirydd. Cyfeiriodd at y cais Land and Lakes, a beth oedd ynghlwm ag o o ran amser, trafodaethau a chyfreithlondebau a safbwyntiau gwahanol, a dywedodd ei fod yn credu fod y wybodaeth a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn wedi’i deall, er nad oedd pawb yn cytuno â hi, a dywedodd ei bod wedi’i chyflwyno’n deg. O ystyried y gwahaniaeth sylweddol ym marn y rheiny a oedd yn cefnogi ac yn gwrthwynebu cais Land and Lakes, roedd o’r farn mai’r llysoedd fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol. Fodd bynnag, hoffai weld y ddwy ochr yn cytuno ar gamau cadarnhaol wrth symud ymlaen, a gorau po gyntaf y gellir cyflwyno’r mater ar gyfer dyfarniad cyfreithiol annibynnol.

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y llythyr a anfonwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13