4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
PDF 229 KB
Cyflwyno
adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
wedi’i diweddaru am y cyfnod Rhagfyr 2023 – Gorffennaf
2024 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y
cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd
adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen
Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2023 a
mis Gorffennaf 2024 i'w chadarnhau.
Diweddarodd y
Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ynghylch newidiadau i'r
Blaen Raglen Waith a nodwyd y canlynol –
- Eitemau 3 (Gwahardd Anifeiliaid fel Gwobrau) a 4 (Achos Busnes
Amlinellol a Strategol – Tai Gofal Ychwanegol Aethwy) fel eitemau newydd ar gyfer cyfarfod 12
Rhagfyr 2023 y Pwyllgor Gwaith.
- Aildrefnwyd Eitem 5 (Rhenti Tai y CRT a Thaliadau Gwasanaeth
Tai 2024/5) i gyfarfod 12 Rhagfyr 2023 o'r Pwyllgor
Gwaith.
- Eitem
20 (Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022/23 a Chynllun
Cydraddoldeb Strategol 2024-2028) fel eitem newydd ar gyfer
cyfarfod 20 Chwefror 2024 y Pwyllgor Gwaith.
- Aildrefnwyd Eitem 29 (Asesiad o'r Farchnad Tai Lleol) i
gyfarfod 19 Mawrth 2024 o'r Pwyllgor Gwaith.
- Eitem
32 (Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2023/24) fel eitem newydd
ar gyfer penderfyniad dirprwyedig gan yr Aelod Portffolio ym mis
Mehefin 2024.
- Eitem
34 (Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2023/24) fel eitem
newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin
2024.
- Eitemau 35 i 37 (adroddiadau monitro’r gyllideb) fel
eitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin
2024.
Penderfynwyd
cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i
diweddaru am y cyfnod Rhagfyr 2023 – Gorffennaf 2024
gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.