Mater - cyfarfodydd

Empty Homes Strategy 2023-2028

Cyfarfod: 28/11/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Strategaeth Tai Gwag 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Tai Gwag ar gyfer 2023 i 2028 i'w ystyried a'i gymeradwyo.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Pritchard yr adroddiad gan ddweud bod y Cynllun yn elfen bwysig o weledigaeth y Pwyllgor Gwaith y dylai pawb gael yr hawl i alw rhywle’n gartref. Mae'r Cynllun yn ceisio sicrhau bod cyn lleied â phosibl o dai gwag ac yn annog perchnogion i ddod â thai’n ôl i ddefnydd unwaith eto. Mae 612 o dai gwag ar Ynys Môn ar hyn o bryd gyda 908 o geisiadau ar gofrestr tai cymdeithasol y Cyngor am lety addas o fis Mawrth 2023; byddai dod â’r eiddo hynny yn ôl i ddefnydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol ym mywydau'r rhai sy'n aros am gartref. Dywedodd y Cynghorydd Pritchard ei fod wedi gweld sawl eiddo gwag sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd yn ei ward ei hun ac wedi dod yn gartrefi i bobl o'r ardal a fyddai fel arall yn dal i gael trafferth dod o hyd i lety neu mewn rhai achosion yn gorfod cysgu yng nghartrefi ffrindiau neu berthnasau. Mae'r gwaith a wnaed i sicrhau hyn yn haeddu canmoliaeth ac mae'n destun balchder.

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) fod y Cynllun yn esbonio pam fod mabwysiadu dull strategol o fynd i'r afael â mater tai gwag yn bwysig o ystyried y galw am dai addas a phwysau tai presennol. Mae'r Cynllun yn nodi pedwar prif amcan ac yn manylu ar sut y bydd y rheini'n cael eu cyflawni; mae'n cydnabod bod dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd yn waith partneriaeth ac mae'n cynnwys cydweithio â gwasanaethau eraill y Cyngor ac asiantaethau allanol i ddelio â'r gwahanol agweddau ar gartrefi gwag a deddfwriaethau amrywiol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cynllun Strategol yn crynhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd yn unol â'r dull y mae wedi'i gymryd dros nifer o flynyddoedd sydd ers 2017 wedi gweld 525 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae'r Cyngor wedi sefydlu sylfaen gref ar gyfer y gwaith o fynd i'r afael â thai gwag ac mae'n cael ei ystyried ar flaen y gad o ran y gweithgaredd hwn.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad o gyfarfod 21 Medi 2023 y Pwyllgor a oedd yn ystyried y Cynllun Strategol Tai Gwag a chadarnhaodd, wrth argymell y Cynllun i'r Pwyllgor Gwaith, fod yr Aelodau wedi trafod y dull o fynd i'r afael â thai gwag hirdymor a phroblemus, y cyfraniad y mae'r Cynllun yn ei wneud tuag at gyflawni amcanion corfforaethol y Cyngor,  i ba raddau y mae'r Cynllun yn dibynnu ar fewnbwn gan bartneriaid a gwasanaethau eraill a'r heriau o ran ymgysylltu â pherchnogion tai gwag y sector preifat.

 

Croesawodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith y Cynllun Strategol fel parhad o’r gwaith da a wnaed gan Wasanaethau Tai i ddelio â chartrefi gwag dros nifer o flynyddoedd a thynnwyd sylw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10