11 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Archwilio 2022-23 – Adroddiad y Cadeirydd PDF 293 KB
Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 29 Mehefin 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2022/2023.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 29 Mehefin, 2023 i’w dderbyn gan y Cyngor.
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2022/2023 gan Mr Dilwyn Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bod y Pwyllgor yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu’r Cyngor. Ei swyddogaeth yw darparu adnodd annibynnol a lefel uchel i gefnogi llywodraethu da a rheolaeth ariannol gyhoeddus gref. Nododd bod y dogfennau yn yr Adroddiad Blynyddol yn cyfeirio at y modd y mae’r Pwyllgor wedi cyflawni ei ddyletswyddau yn ystod 2022/2023 er mwyn adrodd i’r rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethiant h.y. y Cyngor Sir. Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw cael sicrwydd bod systemau rheoli mewnol y Cyngor yn gweithio a bod risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol, yn hytrach na chraffu ar weithgareddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2022/2023.