Mater - cyfarfodydd

Ymateb y Cyngor i Ymgynghoriad Gwasanaeth Brys Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru

Cyfarfod: 26/09/2023 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn i'r Adolygiad Darpariaeth Brys - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru pdf eicon PDF 10 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo’r ymateb drafft Cyngor Sir Ynys Môn i’r Adolygiad Darpariaeth Brys – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Atodiad A yr adroddiad gan gynnwys sylwadau ychwanegol mewn perthynas â’r ddarpariaeth yn Llu Awyr Brenhinol Y Fali a'r angen am adolygiad lleol o’r gwasanaeth a ddarperir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr oedd yn cynnwys ymateb y Cyngor i Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru – Adolygiad o Ddarpariaeth Frys i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Cafodd dogfennau a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymgynghoriad eu cynnwys yn Atodiad B i'r adroddiad ynghyd ag adborth y Cyngor i'r opsiynau a gyflwynwyd o dan Atodiad A.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a chyfeiriodd at bwysigrwydd yr ymgynghoriad o ystyried y gallai ei ganlyniad ddylanwadu ar natur y gwasanaeth ar yr Ynys, yn benodol amseroedd ymateb brys. Mae'r rhan fwyaf o gyllid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn deillio o ardoll sy'n cael ei osod yn flynyddol ac sydd wedyn yn cael ei rannu rhwng chwe awdurdod Gogledd Cymru ar sail poblogaeth. Daw cyfraniad y Cyngor i'r ardoll o'i gyllideb refeniw net ond nid yw manylion yr ardoll wedi'u cynnwys ar ddatganiad y Dreth Gyngor. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y pwysau ariannol y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu oddi tanynt ar hyn o bryd ac y gallai'r ymgynghoriad fod yn arwydd o bethau i ddod o ran y wasgfa ar gyllideb y Gwasanaeth Tân a’r posibilrwydd o ad-drefnu’r ddarpariaeth a allai olygu bod rhai ardaloedd yn talu mwy am lai. Safbwynt y Cyngor yw ei fod yn dymuno derbyn y gwasanaeth gorau posibl heb unrhyw gynnydd mewn costau os yw’n bosibl, ac mae’n gwrthwynebu unrhyw ostyngiad yn lefel y gwasanaeth ar yr Ynys. Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i weld bod gwasanaethau rheng flaen yn cael eu diogelu a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i nodi arbedion effeithlonrwydd mewn meysydd eraill o fewn strwythur gweithredu ac arferion gwaith Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru e.e. costau canolog a hyfforddiant.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth) fod y ddogfen ymateb ddrafft yn Atodiad A yn crynhoi safbwynt y Cyngor a'r prif bryderon a godwyd. Mae'r Prif Swyddog Tân wedi darparu ymateb i sawl cwestiwn ac mae'r ddogfen wedi'i diwygio'n unol â hynny.

 

Dywedodd y Cynghorwyr, Carwyn Jones a Gary Pritchard, eu bod yn cefnogi gwrthwynebiad y Cyngor i Opsiwn 3 a fyddai'n golygu cau un Orsaf Ar Alw ar yr Ynys, sef yr un ym Miwmares. Mynegwyd eu pryderon am yr effaith ar ardal dde-ddwyrain yr Ynys y byddai gweithredu'r opsiwn hwn yn ei chael o ran amseroedd ymateb ynghyd â diogelwch cymunedau’r ardal yn sgil hynny. Byddai’r ddarpariaeth agosaf o bosibl yn gorfod dod o’r ochr draw i’r Fenai a oedd yn golygu cymhlethdod ychwanegol pe bai tagfeydd ar y pontydd dros y Fenai.  Mae hyn yn cynrychioli lefel is o wasanaeth sy'n cynyddu'r bygythiad i fywyd. Gwnaed pwyntiau pellach am yr angen am fwy o dryloywder wrth adrodd am gostau'r Gwasanaeth Tân ac Achub gan gynnwys costau canolog a bod gwybodaeth am ardoll y Gwasanaeth yn cael ei chynnwys ar filiau'r Dreth Gyngor er gwybodaeth y cyhoedd a'r trethdalwr. Gwnaed awgrym y byddai adolygiad lleol o'r gwasanaeth yn ddefnyddiol i weld p’un ai a yw'r Cyngor yn cael gwerth am arian am ei gyfraniad.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12