12 Gweddill y Ceisiadau PDF 4 MB
12.1 – FPL/2023/141 - Egwlys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy.
12.2 – FPL/2022/250 - Parc Carafannau Rynys Caravan Park, Penrhoslligwy, Dulas.
12.3 – FPL/2023/159 - Canolfan Hamdden Biwmares, Biwmares
12.4 – FPL/2023/178 – Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
12.5 – FPL/2023/204 – Ysgol Gynradd Bodffordd, Bodffordd
12.6 – HHP/2023/154 – Glan Traeth, Rhosneigr
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2023/141 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd Eglwys i fod yn un eiddo preswyl (Defnydd Dosbarth C3) ac un eiddo llety gwyliau tymor byr (Defnydd Dosbarth C6) ynghyd â chodi adeilad sied/garej, creu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu balconi newydd, gwaith tirlunio meddal a chaled, addasiadau i’r adeilad ynghyd a gwaith cysylltiedig Eglwys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2022/250 – Cais llawn ar gyfer ail-osod 144 o garafanau gwyliau statig, ynghyd a gwelliannau amgylcheddol ym Mharc Carafanau Rynys, Penrhoslligwy, Dulas
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FPL/2023/159 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan hamdden bresennol, sy'n cynnwys ystafell ddigwyddiadau, campfa, caffi, man chwarae meddal, derbynfa, llyfrgell, swyddfa a storfeydd yng Nghanolfan Hamdden Biwmares, Biwmares.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2023/178 – Cais llawn ar gyfer gosod 10 colofn golau 9m o uchder yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 FPL/2023/204 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad ystafell ddosbarth dwbl modiwlaidd ar faes chwarae'r ysgol yn Ysgol Gynradd Bodffordd, Minffordd, Bodffordd
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.6 FPL/2023/154 – Cais llawn ar gyfer dymchwel estyniad cefn presennol, ynghyd a addasu ac ehangu yn Glan Traeth, Rhosneigr.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
12.1 FPL/2023/141 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd Eglwys i fod yn un eiddo preswyl (Defnydd Dosbarth C3) ac un eiddo llety gwyliau tymor byr (Defnydd Dosbarth C6) ynghyd â chodi adeilad sied/garej, creu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu balconi newydd, gwaith tirweddu meddal a chaled, addasiadau i’r adeilad ynghyd â gwaith cysylltiedig Eglwys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.
Siaradwyr Cyhoeddus
Anerchodd Ms Liz Moyle y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i'r cais a dywedodd fod y cais hwn yn dod gerbron y Pwyllgor ar adeg ddiddorol yn natblygiad deddfwriaeth yng Nghymru. Cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin a dylid ei weithredu erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, gan ddarparu Cod Cyfraith Cymru ar yr Amgylchedd Hanesyddol. Yn ogystal â symleiddio'r gyfraith mae gwerth yr Amgylchedd Hanesyddol, i'r genedl yn cael ei ailddatgan yn bendant yn y Memorandwm Esboniadol. Rhoddodd ddyfyniad byr: "Mae pobl Cymru wedi etifeddu amgylchedd hanesyddol unigryw, wedi'i lunio gan genedlaethau'r gorffennol, mae'n parhau i wella ansawdd ein bywyd a'n lles heddiw. Mae'r lleoedd hanesyddol sydd o'n cwmpas, yn rhoi ymdeimlad o le i ni ac yn helpu i'n diffinio fel cenedl. Mae'r amgylchedd hanesyddol yn adnodd gwerthfawr, mae hefyd yn un bregus. Rhaid ei ddiogelu fel y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol barhau i gael eu hysbrydoli ganddo, dysgu ohono a mwynhau ei fanteision niferus." Cafodd y datblygwr, yr adeiladwyr a nifer o ddefnyddwyr yr Eglwys Bresbyteraidd eu hysbrydoli gan yr hyn a gyflawnwyd ganddynt a sut y diwallwyd anghenion y cyfnod, ond symudwn ymlaen. Ydi’r cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer newid bellach yn diogelu, yn gwella neu'n wir, yn ysbrydoli? Ydi darparu llety gwyliau, lle parcio ychwanegol a thraffig yn gwella neu'n lleihau'r dreftadaeth fregus honno? A ellir cyfiawnhau gwaith newydd, fel yr ystafell haul, ac ydi hi o ansawdd a dyluniad digonol i ychwanegu gwerth i'r safle. Ydi tynnu rhan o'r wal sy'n wynebu'r ffordd yn lleihau’r gwerth yn hytrach na’i gynyddu? Mae'r traffig ychwanegol yn debygol o achosi problemau ychwanegol ar ffordd sydd eisoes yn brysur. Gan ystyried pob newid o ran cynllunio, yn arbennig ar gyfer adeiladau rhestredig ac o fewn yr Ardal Gadwraeth, p’un ai y rhoddir caniatâd i bob cartref a llety gwyliau ai peidio, dylem ddangos ymrwymiad i gynnal yr ymdeimlad hwnnw o le ac yn wir y ffynhonnell ysbrydoliaeth honno i bawb. Dylai'r hyn a adeiladwyd fwy na chan mlynedd yn ôl i wasanaethu'r gymuned, barhau i wneud hynny mewn ffordd syml iawn, gan ddefnyddio’r cais hwn fel enghraifft ar gyfer y dyfodol, er lles y gymuned, ond yn gartrefi i bobl ac nid cartrefi gwyliau.
Wth i Mr Craig Allison annerch y Pwyllgor i gefnogi ei gais dywedodd fod y cyfle i addasu'r eglwys hon yn gartref yn fraint. Mae'r dogfennau ar y cais yn amlinellu sut rydym yn bwriadu defnyddio'r gofod i greu llety gwyliau i’w osod a fydd yn cyfrannu at ad-dalu’r gost am addasu’r adeilad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12