7 Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2022/23 PDF 242 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Hydref 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD yn unfrydol:-
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid ei bod hi’n ofynnol i’r Cyngor, yn ôl rheoliadau a gyhoeddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, i baratoi adolygiad blynyddol ar reoli’r trysorlys yn edrych ar weithgareddau a’r dangosyddion trysorlys a chynghorus gwirioneddol ar gyfer 2022/2023. Dywedodd, yn unol â’r Cynllun Dirprwyo, fod yr adroddiad hwn wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 21 Medi, 2023, a chafodd ei drosglwyddo ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith heb sylwadau ar 24 Hydref 2023. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith i drosglwyddo’r adroddiad ymlaen i’r Cyngor llawn heb unrhyw sylwadau pellach.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-
· Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn rhai dros dro nes bod yr archwiliad ar Ddatganiad Cyfrifon 2022/2023 wedi’i gwblhau ac wedi’i gymeradwyo; bydd unrhyw addasiadau sylweddol i’r ffigyrau yn yr adroddiad hwn o ganlyniad yn cael eu hadrodd fel y bo’n briodol;
· Nodi’r dangosyddion trysorlys a chynghorus dros dro ar gyfer 2022/2023 yn yr adroddiad hwn.