Mater - cyfarfodydd

Annual Report - Director of Social Services : 2022/2023

Cyfarfod: 26/10/2023 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 8)

8 Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 pdf eicon PDF 69 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD yn unfrydol derbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’w gymeradwyo gan y Cyngor llawn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion mai diben yr adroddiad yw hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am berfformiad a’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn, yn ogystal â chynnwys meysydd sydd wedi’u hadnabod i’w gwella yn ystod y flwyddyn nesaf.  Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae nifer o lwyddiannau o fewn y gwasanaeth, fel y nodir yn yr adroddiad. Dywedodd fod yr Awdurdod yn un o dri awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi cael ei gydnabod fel Cymuned Oed Gyfeillgar.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2022/2023 fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r prif gyflawniadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a’r pwysau ar y gwasanaeth oherwydd galw cynyddol. Dywedodd fod y gwasanaeth hefyd yn dibynnu ar grantiau rhanbarthol a grantiau gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu fforddio datblygiadau o fewn y gwasanaeth, ac mae gwaith ar y cyd yn mynd rhagddo gyda sefydliadau partner perthnasol a’r trydydd sector. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ymlaen i ddweud fod strategaeth newydd wedi cael ei rhoi ar waith mewn perthynas â chyfleoedd Gofal Dydd, ac er mwyn hyrwyddo a chefnogi pobl gydag Anghenion Dysgu i fod yn rhan o’r gymuned leol, a’u gwerthfawrogi. Cyfeiriodd at gynllun Cartrefi Clyd, sydd wedi mynd i’r afael ag anghenion plant a phobl ifanc er mwyn gofalu amdanynt ar yr Ynys. Aeth ymlaen i ddweud fod y cynllun atal yn cefnogi pobl i fodloni eu gofynion cymorth personol. Mae cynllun hyfforddiant Ystyriol o Drawma yn cael ei gynnig, a gobeithir y bydd yn denu cyllid grant pellach. Hoffai’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ddiolch i staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith, a dywedodd bod gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau partner perthnasol yn hollbwysig o ran llwyddiant y gwasanaeth.

 

Roedd aelodau’r Cyngor yn dymuno diolch i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r staff am eu gwaith, ac effeithiolrwydd y cymorth a’r gwasanaeth sydd wedi’u darparu i drigolion yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar Effeithiolrwydd y Gwasanaeth Cymdeithasol yn ystod 2022/2023.