Mater - cyfarfodydd

Rhybydd o Gynnig

Cyfarfod: 26/10/2023 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 4)

Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad

Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Nicola Roberts:-

 

‘Rwy’n cyflwyno’r rhybudd o gynnig hwn er mwyn galw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu ansawdd dŵr Ynys Môn a Chymru gyfan.

 

Rydym yn ystod y misoedd diwethaf wedi gweld amryw o esiamplau o ddŵr môr wedi effeithio gan fudreddi sy’n effeithio ar drigolion yr ynys, y sector twristiaeth a bywyd gwyllt. Roeddwn mewn digwyddiad gyda rhai o fy nghyd gynghorwyr dros yr haf er mwyn dangos ein cefnogaeth i’w cais am fwy o ymyrraeth gan y Llywodraeth i ddiogelu ansawdd ein dŵr.

 

Mae ffigyrau trychinebus gan Dŵr Cymru yn cadarnhau bod dros 20256 o oriau lle mae dŵr wast wedi ei ollwng yn rhydd i’n dyfroedd. Mae nifer uchel o oriau yma yn dangos bod y ffordd yma o waredu o dŵr wast yn cael ei ddefnyddio fel rhywbeth rheolaidd yn hytrach na fel mesur argyfwng yn unig. Mae effeithiau newid hinsawdd yn debygol o waethygu’r sefyllfa.

 

Nid oes modd cael datrysiad lleol gan y gallai gollwng carthion mewn un sir gael effaith ddaearyddol ar ein cymdogion mewn siroedd eraill. Mae’n rhaid felly cael datrysiad gan y Llywodraeth.  Rwy’n erfyn arnoch i gefnogi fy nghais, a llythyru drwy’r Arweinydd, i alw ar Lywodraeth y DU am ymyrraeth sydyn.’

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu’r cyfarfod gytuno i’r gwelliant a cafodd y Rhybudd o Gynigiad ei gefnogi’n unfrydol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Nicola Roberts:-

 

‘Rwy’n cyflwyno’r rhybudd o gynnig hwn er mwyn galw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu ansawdd dŵr Ynys Môn a Chymru gyfan.

 

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld sawl esiampl o ddŵr budr yn effeithio ar ddŵr môr, sydd yna’n effeithio ar drigolion yr Ynys, y sector twristiaeth a bywyd gwyllt. Mynychais ddigwyddiad gyda rhai o’m cyd Gynghorwyr yn ystod yr haf er mwyn dangos ein cefnogaeth i’w cais am ymyrraeth bellach gan y Llywodraeth i ddiogelu ansawdd ein dŵr.

 

Mae ffigyrau torcalonnus gan Dŵr Cymru yn cadarnhau bod dŵr gwastraff wedi cael ei ollwng i’n dŵr yn rheolaidd am fwy na 20256 awr. Mae’r ffigwr hwn yn dangos bod dŵr gwastraff yn cael ei ryddhau yn rheolaidd yn hytrach nag mewn argyfwng yn unig. Mae effeithiau newid hinsawdd hefyd yn debygol o waethygu’r sefyllfa.

 

Nid yw datrysiad lleol yn bosibl gan y byddai rhyddhau carthffosiaeth yn y Sir yn cael effaith ddaearyddol ar ein cymdogion mewn siroedd eraill. Oherwydd hyn, mae angen datrysiad gan y Llywodraeth. Rwy’n erfyn arnoch i gefnogi fy nghais i anfon llythyr drwy’r Arweinydd at Lywodraeth y DU am ymyrraeth frys.’

 

Bu i’r Cynghorydd Neville Evans eilio’r Cynnig. Dywedodd y Cynghorydd Evans, fel yr Aelod Portffolio ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Morol, ei fod yn llwyr gefnogi’r Cynnig gan fod ansawdd y dŵr yn hollbwysig i drigolion yr Ynys a thwristiaeth.

 

Roedd y Cynghorydd Aled M Jones yn cefnogi’r Cynnig, a bod angen cymryd camau i ddiogelu ansawdd y dŵr. Cyfeiriodd at enghraifft tebyg i’r sefyllfa hon mewn perthynas ag ansawdd y dŵr a oedd wedi ymddangos ar draeth yn Nhwrcelyn, a’r gwaith a wnaed gan yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill er mwyn adfer y sefyllfa. Dywedodd bod materion yn ymwneud ag ansawdd dŵr, carthffosiaeth a risg llifogydd wedi cael eu datganoli gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Cynigiodd y Cynghorydd Jones fod llythyr yn cael ei anfon at y ddwy Lywodraeth mewn perthynas â’r pryderon ynghylch rhyddhau dŵr gwastraff i’r môr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod hi’n derbyn yr argymhelliad, a byddai’n addasu’r Cynnig fel bo’r llythyr yn cael ei anfon gan yr Arweinydd at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd hefyd fod materion datganoledig wedi cael eu trosglwyddo gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, mae’r gyfrifoldeb gyffredinol yn nwylo Llywodraeth y DU, ac mae angen datrysiad ar gyfer y DU gyfan er mwyn gwella ansawdd dŵr ac atal rhyddhau dŵr gwastraff i’r môr.

 

Cytunodd y cyfarfod gyda’r addasiad, a chafwyd pleidlais unfrydol o blaid y Cynnig.