3 Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 3, 2023/24 PDF 356 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2023/24;
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2023/24, y manylir arnynt yn Atodiad C;
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH a D.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol cyllideb refeniw'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, blwyddyn ariannol 2023/2024 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor, ar 9 Mawrth 2023, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2023/2024 gyda gwariant net y gwasanaethau o £174.569m, i'w ariannu o incwm y Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol, yn ogystal â £3.780m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2023/2024, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw tanwariant o £0.842m. Mae hyn yn 0.49% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/2024. Cyfeiriodd at baragraff 2.2 – Tabl 1 yn yr adroddiad, sy'n crynhoi'r amrywiadau sylweddol o ran gorwario/tanwario o fewn gwasanaethau'r Cyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y sefyllfa ariannol yn Chwarter 3 wedi gwella ers Chwarter 2. Nododd fod asesu cleientiaid o fewn Gwasanaethau Oedolion wedi gwella, a bod mwy o incwm wedi'i gynhyrchu na’r hyn a ragwelwyd yn Chwarter 2. Gofynnwyd hefyd i bob gwasanaeth adolygu eu gwariant ac arafu gwariant lle bynnag y bo modd, a llwyddwyd i wneud hyn, gyda mwyafrif y gwasanaethau yn dangos sefyllfa ariannol well ar ddiwedd chwarter 3. Fodd bynnag, tynnodd sylw at y ffaith bod swyddi gwag o fewn yr Awdurdod ac nad yw'r gwasanaethau'n gallu parhau i ofyn i staff wneud gwaith swyddi nad ydynt wedi'u llenwi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach y gall y lefelau incwm ychwanegol a welwyd yn ystod y trydydd chwarter amrywio hefyd ac efallai na fydd yn cael ei ailadrodd yn 2024/2025. Mae grantiau untro ychwanegol a dderbyniwyd hefyd wedi lleddfu'r sefyllfa, ond pwysleisiodd nad oes modd ystyried grantiau o'r fath yng nghyllideb 2024/2025.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2023/2024;
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau Wrth Gefn ar gyfer 2023/24, y manylir arnynt yn Atodiad C;
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH a D.