Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 07/02/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 623 KB

6.1 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran

FPL/2023/61

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1  FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar tir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran

 

       Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

6.1  FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir yn Nhaldrwst, Lôn Fain, Dwyran

 

      Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2023, penderfynwyd ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 15 Tachwedd, 2023.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2023 penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail nad oedd digon o wybodaeth am drefniadau draenio wedi'i darparu i aelodau allu gwneud penderfyniad.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2024, penderfynwyd gohirio’r penderfyniad er mwyn caniatáu amser i dîm draenio arbenigol yr Awdurdod asesu'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn llawn.

 

      Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod manylion y profion mandylledd wedi'u darparu gan yr ymgeisydd er mwyn canfod pa mor dderbyniol yw’r ffosydd cerrig arfaethedig.  Argymhelliad y Swyddog yw gohirio'r cais i ganiatáu amser i dîm draenio arbenigol yr Awdurdod asesu'r wybodaeth yn llawn. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gohirio'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Alwen Watkin y cynnig.

 

      PENDERFYNWYD gohirio'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.