7.1 – FPL/2023/146 – Cae Graham, Pentraeth
7.2 - FPL/2023/227 – Ty Coch Farm, Rhostrehwfa
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 FPL/2023/146 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a codi annedd newydd ynghyd a gwaith cysylltiedig yn Cae Graham , Pentraeth.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd y bydda’r datblygiad wedi cael effaith negyddol ar y polisi Cynllunio awyr dywyll a bod y datblygiad arfaethedig yn rhy fawr ar gyfer ôl troed yr annedd presennol.
(Yn unol â’r gofyniad yng nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais).
7.2 FPL/2023/227 –Cais llawn i ddymchwel yr annedd presennol ynghyd â chodi annedd newydd, ynghyd ag addasu y fynedfa bresennol, gosod system trin carthffosiaeth, a gwaith cysylltiedig yn Tŷ Coch Farm, Rhostrehwfa,
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Cofnodion:
7.1 FPL/2023/146 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yng Nghae Graham, Pentraeth.
Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2024 penderfynwyd ymweld â'r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 24 Ionawr, 2024.
Dywedodd y Cadeirydd fod Aelod Lleol, y Cynghorydd Ieuan Williams wedi gofyn a oedd yn dderbyniol i 4 ffotograff gael eu dangos i'r Pwyllgor o ran y cais hwn. Dywedodd ei fod, fel Cadeirydd, wedi penderfynu caniatáu i'r 4 llun gael eu dangos yn dilyn cyngor cyfreithiol. Dywedodd y bydd pob cais yn cael ei asesu ar sail ei deilyngdod ei hun gan nad oedd yn dymuno gosod cynsail a bod angen anfon ceisiadau o'r fath i'r Adran Gynllunio i ganfod a ydynt yn berthnasol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Cyfansoddiad ond yn nodi bod siaradwyr cyhoeddus yn cael eu hatal rhag dosbarthu dogfennau ychwanegol i'r Pwyllgor. Nododd ei fod yn cytuno gyda'r Cadeirydd y dylid anfon ceisiadau o'r fath gan Aelodau Lleol i gyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol i'r Adran Cynllunio er mwyn caniatáu digon o amser i’r Swyddog perthnasol ystyried a yw'r dogfennau’n berthnasol fel rhan o'r cais a drafodir.
Siaradwr Cyhoeddus
Dywedodd Mrs Anne Grady wrth annerch y Pwyllgor, fel gwrthwynebydd i'r cais, ei bod hefyd yn cynrychioli ei chymdogion sydd hefyd wedi gwrthwynebu'r cais hwn, pob un ohonynt naill ai wedi'u geni neu wedi bod yn byw yma ers mwy o flynyddoedd na'i gŵr a hithau. Ar ben draw’r lôn darmac, dywedodd bod 9 eiddo gyda mynediad uniongyrchol atynt o’r lôn sy'n mynd yn ei blaen am Gae Graham. Mae 11 o berchnogion yn byw mewn 6 o'r cartrefi hyn; mae 2 dŷ arall yn gartrefi gwyliau parhaol Airbnb, ar gyfer cyfanswm o hyd at 20 o oedolion ac mae Cae Graham yn gartref gwyliau Airbnb a oedd yn cael ei osod rhwng 2018 a 2020. Dywedodd eu bod gwrthwynebu’r cais hwn gan ei fod yn mynd yn groes i bolisi Cynllun Datblygu TA 13 - Maen Prawf 5 - mae'n disodli caban gwyliau, Maen Prawf 6 - dylid lleoli tŷ sydd i’w ailadeiladu oddi mewn i’r un ôl troed â’r adeilad presennol oni bai y gellir dangos bod ail leoli o fewn y cwrtil yn lleihau ei effaith weledol, Maen Prawf 7 - mae'r cynnydd mewn maint dros 3 gwaith yr uchafswm a ganiateir ac nid oes cyfiawnhad wedi'i roi ar gyfer hyn? Dyluniad a defnydd yn ei amgylchedd - Mae'r ymgeisydd yn cynnig dymchwel y caban unllawr, un ystafell wely, un ystafell ymolchi a brynodd yn 2016 ac sydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi'i addasu (trwy gynnwys yr hen bortsh mynediad â chanopi) er mwyn hawlio, ar dudalen 24 o'r Datganiad Dylunio a Mynediad, bod yr annedd arfaethedig yn disodli eiddo 3 ystafell wely. Mae ceir sydd wedi'u parcio o flaen y caban i'w gweld yn glir o'r traeth, felly hefyd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7