Mater - cyfarfodydd

Ymweliad Safleoedd

Cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 4)

4 Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 120 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y nifer isel o aelodau a oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle Cynllunio ar 21 Chwefror. Roedd yn siomedig mai dim ond pedwar aelod oedd yn bresennol ac mai dim ond pedwar aelod oedd wedi ymddiheuro ymlaen llaw, sy’n golygu bod pum aelod yn absennol heb unrhyw rybudd. Bu iddo atgoffa’r Aelodau bod ymweliadau safle’n cael eu cynnal yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgor a’u bod yn bwysig, a bod gan yr Aelodau ddyletswydd i wneud pob ymdrech i fynychu. Er ei fod yn gwerthfawrogi nad yw hynny bob amser yn bosib, dywedodd bod ymweliadau safle bob amser yn cael eu cynnal bythefnos wedi’r cyfarfod o’r Pwyllgor, ac y dylai’r Aelodau aildrefnu eu dyddiaduron yn unol â hynny os oes modd.   Gofynnodd yn barchus i’r Aelodau ymddiheuro ymlaen llaw os na allant fod yn bresennol.