11 Aelodaeth a Chyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) PDF 494 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD yn unfrydol:-
· Addasu enw’r CYSAG i CYS a bod y Swyddog Monitro yn cynnwys ei gylch gorchwyl yng Nghyfansoddiad y Cyngor, yn unol â’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer CYS;
· Oherwydd bod rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr aelodaeth, yn gyffredinol, yn gymesur â chryfder pob crefydd, enwad, neu argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn ei ardal leol, bod aelodaeth y CYS yn cynnwys cyfanswm o 9 sedd, yn cynnwys 6 sedd ar gyfer yr aelodau presennol a 3 sedd newydd ychwanegol a benodir ar gyfer cynrychiolwyr o: Dyneiddwyr y DU, Islam a Thystion Jehova;
· Cynnal adolygiad pellach, o fewn chwe mis, o’r seddi Cristnogol presennol (ac felly’n eithrio Tystion Jehova o’r ymgynghoriad nesaf) oherwydd sylwadau a wnaethpwyd pan ymgynghorwyd gyda CYSAG a’r ffigyrau sydd wedi dod i law.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Cyngor gan Gadeirydd y CYSAG.
PENDERFYNWYD yn unfrydol:-