Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 03/04/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 620 KB

 

 6.1 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran

FPL/2023/61

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 6.1 FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar tir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran

 

Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

6.1 FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd, 2023 penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2023.  Yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr, 2023 penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail nad oedd yr wybodaeth a ddarparwyd ynglŷn â’r system ddraenio yn ddigonol i’w galluogi i wneud penderfyniad.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y datblygwr wedi cyflwyno cais SuDs i’r Awdurdod Lleol fel y corff cymeradwyo ceisiadau SuDS ac mae’r wybodaeth wrthi’n cael ei hasesu. Argymhellodd y Swyddog bod y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er mwyn i’r cais gael ei asesu’n llawn, ac fel y gellir dod i benderfyniad ynglŷn â’r cais SuDS.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais y cael ei ohirio yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ohirio gan y Cynghorydd Alwen P Watkin.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a nodwyd.