Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 03/04/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 – VAR/2024/12 - Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

VAR/2024/12

 

12.2 – FPL/2024/10 – Cae Pêl Droed, Llanerchymedd

FPL/2024/10

 

12.3 – VAR/2024/4 - Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

VAR/2024/4

 

12.4 – HHP/2024/9 – 29 Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

HHP/2024/9

 

12.5 – FPL/2023/275 - Stad Diwydianol Amlwch

FPL/2023/275

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  VAR/2024/12 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (04) (CEMP), (11) (CTMP), (17) (mesurau cynnal a chadw'r fynedfa a ffyrdd y stad) (20) (Asesiad o Risg Bioddiogelwch), (22) (Dyluniadau sylfaen) a (24) (tai fforddiadwy) o ganiatâd cynllunio FPL/2022/60 (codi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig) fel y gellir cyflwyno’r wybodaeth y gofynnwyd amdano wedi i’r gwaith ddechrau ar y cyn safle Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2  FPL/2024/10 – Cais llawn i leoli dau gynhwysydd ar gyfer storio cyfarpar yn Cae Pêl Droed, Llannerchymedd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.3  VAR//2024/4 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) (cynlluniau cymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/337 (Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF)) er mwyn adfer maes parcio'r staff yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4  HHP/2024/9 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 29 Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.5  FPL/2023/275 – Cais llawn ar gyfer adeiladu dwy uned fusnes sy'n cynnwys 10 uned unigol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Stad Ddiwydiannol Amlwch.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

12.1  VAR/2024/12 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (04) (CEMP), (11) (CTMP), (17) (mesurau cynnal a chadw'r fynedfa a ffyrdd y stad) (20) (Asesiad o Risg Bioddiogelwch), (22) (Dyluniadau sylfaen) a (24) (tai fforddiadwy) o ganiatâd cynllunio FPL/2022/60 (codi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad mewnol a gwaith cysylltiedig) fel y gellir cyflwyno’r wybodaeth y gofynnwyd amdano wedi i’r gwaith ddechrau ar hen safle Ysgol Niwbwrch, Ffordd Pen Dref, Niwbwrch. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym meddiant yr Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod rhaid i’r datblygwr, fel rhan o gais cynllunio FPL/2022/60, gyflwyno’r manylion i’w cymeradwyo cyn dechrau datblygu’r safle.  Roedd y datblygwr wedi clirio’r safle cyn i’r amodau gael eu rhyddhau ac felly roedd rhaid cyflwyno cais dan Adran 73 er mwyn caniatáu cymeradwyo’r manylion ar ôl dechrau ar y gwaith. Mae’r amodau yn ymwneud ag amodau rhif (04), (11), (17), (20), (22) a (24). Ar ôl ymgynghori â’r ymgyngoreion perthnasol, ystyrir bod y manylion a gyflwynwyd yn dderbyniol. Bernir felly ei bod hi’n  dderbyniol rhyddhau’r amodau. Ers cyhoeddi’r adroddiad ysgrifenedig mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i amrywio’r amod yn ymwneud â’r CTMP (amod 11) ac mae’r Ymgynghorydd Ecolegol wedi cadarnhau nad yw’n gwrthwynebu amrywio’r amod yn ymwneud â’r CEMP (amod 4).

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 FPL/2024/10 - Cais llawn i osod dau gynhwysydd ar gyfer storio cyfarpar yng Nghae Pêl-droed, Llannerchymedd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â gosod dau gynhwysydd ar y safle i storio offer y clwb.  Bydd y cynwysyddion yn cael eu lleoli yno dros dro am gyfnod o 5 mlynedd a bydd amod yn cael ei gosod i ganiatáu lleoli’r cynwysyddion ar y safle dros dro. Bernir bod datblygiad o’r maint hwn yn dderbyniol gan nad yw’n cael effaith weledol negyddol ar yr ardal gyfagos. Hefyd, bydd gwelliannau bioamrywiaeth yn helpu i wrachod a diogelu bioamrywiaeth.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag  argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd  Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog yn unol â’r amodau cynllunion yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 VAR//2024/4 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) (cynlluniau cymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/337 (Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF)) er mwyn adfer maes parcio'r staff yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar rinwedd bod y caniatâd gwreiddiol wedi’i roi gan y Pwyllgor.

 

Adroddodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12