Mater - cyfarfodydd

School Organisation – Objection Report and final decision re: Ysgol Carreglefn

Cyfarfod: 23/05/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Trefniadaeth Ysgolion - Adroddiad Gwrthwynebu a dod i Benderfyniad Terfynol am Ysgol Carreglefn pdf eicon PDF 1015 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·      Trosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn o 31 Awst 2024.

·      Awdurdodi Swyddogion i gyhoeddi rhybudd o’r penderfyniad terfynol ar ffurf llythyr penderfyniad yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 011/2018.

·      Ymestyn dalgylch Ysgol Llanfechell i ymgorffori dalgylch presennol Ysgol Carreglefn.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Gwrthwynebu ar y cynnig i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, a adroddodd bod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo’r cynnig yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2024 a bod Rhybudd Statudol o fwriad y Cyngor i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell wedi cael ei gyhoeddi ar 1 Mawrth 2024. Roedd gan randdeiliaid 28 diwrnod i gyflwyno gwrthwynebiad statudol i’r cynnig.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y cynigiwr [h.y. y Cyngor] a gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried cyn dod i benderfyniad terfynol ynglŷn â’r cynnig. Amlygodd yr Aelod Portffolio bod gan Ysgol Carreglefn lai na 10 disgybl ar y gofrestr pan gynhaliwyd y Cyfrifiad ym mis Ionawr 2024, ac felly mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu i’r awdurdod lleol ddilyn proses symlach i gau’r ysgol yn swyddogol ac mae’r gofyn i gynnal ymgynghoriad cyffredinol yn cael ei hepgor.

Adroddodd yr Uwch Reolwr Addysg ar gyfer y Sector Uwchradd bod y Cyngor wedi derbyn 8 ymateb a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig - 7 gan ddisgyblion Ysgol Carreglefn a’r llall gan Gorff Llywodraethol Ysgol Carreglefn.  Mae’r materion a godwyd ac ymateb y Cyngor wedi’u crynhoi yn Nhabl 1 yn yr Adroddiad Gwrthwynebu.  Yn ogystal â’r ymatebion yma, derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Cymuned Mechell wedi i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben ar 2 Ebrill 2024.  Mae’r sylwadau hyn wedi’u crynhoi yn rhan 4 yn yr Adroddiad Gwrthwynebu a chan mai sylwadau ydynt yn hytrach na gwrthwynebiadau, a chan eu bod wedi dod i law ar ôl y cyfnod gwrthwynebu statudol, nid yw’r cyngor wedi delio â hwy ac ymateb iddynt fel gwrthwynebiadau statudol ac maent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad er budd tryloywder. Pe byddai’r Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau ei benderfyniad i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn bydd llythyr penderfyniad yn cael ei gyhoeddi a bydd trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i weithredu’r penderfyniad hwnnw a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Llanfechell, a darparu cefnogaeth i’r plant a’u rhieni a staff yr ysgol yn ystod y broses.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg bod y gwrthwynebiadau wedi cael eu hystyried a bod yr ymatebion wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Gwrthwynebu. Cynigodd yr argymhellion yn yr adroddiad sef cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Carreglefn a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Llanfechell. Wrth wneud hynny diolchodd i’r Swyddogion a’r rhai a oedd wedi cyfrannu i’r broses a thalodd deyrnged i staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni Ysgol Carreglefn yn ogystal â’r gymuned ehangach am eu gwaith caled i gefnogi a chynnal Ysgol Carreglefn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd y diolchiadau hynny eu hategu gan Aelodau’r Pwyllgor Gwaith a wnaeth hefyd gydnabod yr urddas y mae Ysgol Carreglefn a chymuned Carreglefn wedi’i ddangos yn ystod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5