4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 208 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Medi 2024 i Fawrth 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025 i'w gadarnhau.
Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ynghylch eitemau newydd ar y Blaen Raglen Waith ynghyd ag eitemau a oedd wedi'u haildrefnu ar gyfer y cyfnod adrodd.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.