Mater - cyfarfodydd

Final draft accounts 2023/24 and use of reserves

Cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Cyfrifon Terfynol Drafft 2023/24 a defnydd o Gronfeydd with Gefn a Balansau pdf eicon PDF 361 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon Drafft llawn ar gyfer 2023/24 ar y ddolen a ganlyn:- Datganiad-or-cyfrifon-Drafft-2023-2024.pdf (llyw.cymru)

·      Nodi sefyllfa balansau cyffredinol y Cyngor, sef £15.604m.

·      Nodi balans y Cronfeydd wrth gefn clustnodedig, sef £16.778m, a chymeradwyo creu £1.553m o gronfeydd wrth gefn newydd clustnodedig.

·      Cymeradwyo, yn ffurfiol, trosglwyddo £2.002m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig yn ôl i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

·      Nodi balans cronfeydd wrth gefn ysgolion, sef £5.577m.

·      Nodi balans cronfa’r CRT, sef £8.189m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft (CIES) ar gyfer 2023/24 a chyflwynwyd y Fantolen ddrafft ar 31 Mawrth 2024 i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o falansau cyffredinol y Cyngor, cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi, balansau ysgolion a chronfa’r CRT.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a nododd fod cyfrifon drafft y Cyngor wedi cael eu hanfon ymlaen i Archwilio Cymru i'w harchwilio o fewn y dyddiad cau a bennwyd ac wedi cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 18 Gorffennaf 2024.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y CIES sy'n dangos sefyllfa incwm a gwariant y Cyngor ar gyfer 2023/24 gan gynnwys cost gwasanaethau yn seiliedig ar arferion cyfrifyddu yn hytrach na'r swm sydd i'w ariannu o drethi. Adroddodd ar y newidiadau yng nghronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor ar 31 Mawrth 2024 fel y'u crynhoir ym mharagraff 3.4 o'r adroddiad a dywedodd fod y ffigurau a gyflwynir yn destun archwiliad ac y gallent newid. Y balans ar y Gronfa Gyffredinol ar 31 Mawrth 2024 yw £15.604m (gan gynnwys y tanwariant o 2023/24) neu 8.95% o gyllideb gwariant net 2023/24. Defnyddiodd y Cyngor £4.425m o'r gronfa wrth gefn hon fel cyllid ar gyfer cyllideb 2024/25 sy'n lleihau'r balans net sydd ar gael i £11.179m neu 6.08% o gyllideb gwariant net 2024/25. Argymhelliad y Swyddog Adran 151 a gymeradwywyd gan y Cyngor yw y dylid cadw 5% o'r gyllideb gwariant refeniw net fel isafswm balans o'r gronfa wrth gefn ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Yn seiliedig ar yr argymhelliad hwn, dylai'r isafswm balans fod yn £9.2m sy'n golygu bod £2m o falansau i'r Cyngor uwchlaw'r isafswm ffigur hwn. Yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael, mae'r sefyllfa ariannol ar gyfer 2025/26 yn ymddangos yn heriol. Mae'r gwarged mewn balansau cyffredinol yn cryfhau sefyllfa'r Cyngor ac yn rhoi cyfle iddo ddefnyddio ei falansau cyffredinol yn 2024/25 yn ychwanegol at setliad Llywodraeth Cymru a chyllid y Dreth Gyngor. Hefyd bydd cadw at y gyllideb yn helpu sefyllfa’r Cyngor gan y bydd yn rhaid i unrhyw orwariant ddod o'r balansau cyffredinol. Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer 2025/26 eisoes wedi dechrau.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 hefyd at falansau ysgolion sydd, er eu bod wedi gostwng, yn parhau i fod mewn cyflwr cymharol iach yn gyffredinol, ac at gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ac a gedwir at ddibenion penodol. Mae Tabl 4 yr adroddiad yn nodi'r cronfeydd wrth gefn newydd a grëwyd yn 2023/24 a'r rhesymau dros eu creu a gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo hyn.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith yn cwblhau'r cyfrifon drafft ar amser a'u cyflwyno i'w harchwilio.

 

Penderfynwyd –

 

  • Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon Drafft llawn ar gyfer 2023/24 ar y ddolen a ganlyn:-  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9