Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account Budget Monitoring - Quarter 4, 2023/24

Cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai, Alldro 2023/24 pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a osodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y CRT ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 ar gyfer y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a nododd fod gwarged a gynlluniwyd o £8.044k. Y gyllideb cyfalaf gros ar gyfer 2023/24 oedd £19,988k gyda grant a chyllid arall o £6,898k yn lleihau'r gyllideb £13,090k. Roedd y cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i haddasu yn rhoi diffyg cyllidebol wedi'i gynllunio o £5,046k a fyddai'n cael ei ariannu o gronfa wrth gefn y CRT.

 

Mae gwir warged refeniw CT o £8, 727 yn uwch na'r lefel gwarged a gynlluniwyd o £683k fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad. Roedd tanwariant o £182k ar alldro o ran gwariant cyfalaf fel y nodir yn Atodiad B. Roedd incwm grant £801k yn uwch na'r gyllideb gyda chyfraniadau eraill £538k yn is na'r gyllideb. Ar alldro, roedd tanwariant o £44k o ran gwariant cyfalaf net. Derbyniwyd swm ychwanegol o £509k trwy werthu 4 annedd

dan drefniant rhannu ecwiti, cafodd hwn ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn a glustnodwyd. Ar alldro, roedd y diffyg (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) yn £3,918k, £1,127k yn is na’r gyllideb. Mae hyn yn golygu fod balans cau cronfa wrth gefn y CRT yn £8,189k. Mae'r balans wedi'i glustnodi a dim ond ar gael i ariannu gwariant y CRT yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y strategaeth CRT fel y'i nodir yng Nghynllun Busnes 30 mlynedd y CRT fel un sydd i ddefnyddio gwarged refeniw y CRT fel cyfraniad tuag at wariant cyfalaf i gynnal y stoc bresennol yn unol â safonau SATC gyda chronfa wrth gefn y CRT yn cael ei defnyddio i ariannu datblygiad cartrefi newydd. Wrth i gronfa wrth gefn y CRT ostwng i'r lefel y cytunwyd arni yn y Cynllun Busnes, sef tua £1m i £1.5m, bydd y cyngor yn benthyca i barhau â'r broses adeiladu a'r costau’n cael eu hariannu o'r incwm a geir o'r cartrefi newydd a ddatblygwyd eisoes.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a osodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24.