6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 627 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 Cais llawn i godi 15 tŷ fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ynghyd â chreu ffordd fewnol a gwaith cysylltiedig ar dir ger Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn cynnal ymweliad safle.
Cofnodion:
6.1 FPL/2023/15 – Cais llawn i godi 15 tŷ fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ynghyd â chreu ffordd fewnol a gwaith cysylltiedig ar dir ger Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Aelod Lleol wedi gofyn am gynnal ymweliad safle oherwydd pryderon lleol yn ymwneud â materion priffyrdd ac amwynderau preswyl.
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol ei fod yn cefnogi’r cais i gynnal ymweliad safle ond roedd yn deall bod angen gohirio’r ymweliad gan eu bod yn disgwyl am adroddiad gan Swyddogion ar ddiogelwch y ffordd. Dywedodd y dylai adroddiad yr Awdurdod Priffyrdd fod ar gael cyn cynnal ymweliad safle.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fel yr oedd yr Aelod Lleol wedi nodi ei fod wedi gofyn am ymweliad safle cyn y Pwyllgor hwn. Grŵp Cynefin yw’r ymgeisydd ac mae ganddynt dargedau i sicrhau cyllid ar gyfer datblygu tai fforddiadwy o'r fath. Roedd o'r farn na fyddai’n bosibl derbyn adroddiad yr Awdurdod Priffyrdd cyn yr ymweliad safle, ond gallai amlinellu pryderon yr Aelodau Lleol a'r trigolion yn ystod ymweliad safle.
Roedd y Cynghorydd Dylan Rees yn derbyn sylwadau'r Swyddog ond roedd yn anghytuno gan fod adroddiad yr Awdurdod Priffyrdd yn bwysig cyn ymweld â'r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad safle am y rhesymau a roddwyd. Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn cynnal ymweliad safle.