Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n codi pdf eicon PDF 4 MB

7.1 FPL/2023/181 - Shirehall, Lôn Glanhwfa, Llangefni.

      FPL/2023/181

 

7.2 FPL/2023/118 – Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

      FPL/2023/118

 

7.3 FPL/2023/328 – Capel Jerusalem, Llangoed

      FPL/2023/328

 

7.4 FPL/2024/64 - Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl

      FPL/2024/64

 

7.5 FPL/2023/61 – Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran

      FPL/2023/61

 

7.6 FPL/2023/339 – Lane Ends, Llaneilian

      FPL/2023/339

 

7.7 FPL/2024/40 - Anglesey Golf Club, Station Road, Rhosneigr.

      FPL/2024/40

 

7.8 HHP/2024/56 - 2 Saith Lathen, Ty Croes

      HHP/2024/56

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned

breswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Shirehall, Lôn Glanhwfa, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2 FPL/2023/118 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i leoli 55 o garafanau/cabanau gwyliau sefydlog, newid defnydd yr adeilad allanol i greu lle golchi dillad, derbynfa a swyddfa ynghyd ag adeiladu ffyrdd newydd ar y safle, codi adeilad trin carthffosiaeth, adeiladu maes parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled a gwaith cysylltiedig yn Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3 FPL/2023/328 – Cais llawn i droi’r capel yn 3

uned wyliau ynghyd â gwaith addasu ac ehangu

yng Nghapel Jerusalem, Llangoed.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

7.4 FPL/2024/64 - Cais llawn i ddymchwel y tŷ presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le a chadw'r fynedfa newydd i gerbydau yn Nhyddyn Dylifws, Tyn y Gongl.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod y Pwyllgor o’r farn bod y cais yn groes i faen prawf 7, ym mholisi TAN 13 yn y cynllun datblygu.

 

(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.)   

 

7.5  FPL/2023/61 – Cais llawn i newydd defnydd tir

amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er

mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd

newydd ar y safle, addasu’r fynedfa bresennol i

gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a

chaled ar dir yn Nhaldrwst, Lôn Fain, Dwyran.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.6 FPL/2023/339 – Cais llawn i newid dyluniad yr adeilad a chais ôl-weithredol i osod cyfleuster parod i drin carthion yn y storfa gychod ar dir ger Lane Ends, Llaneilian.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.7 FPL/2024/40 - Cais llawn i ddefnyddio’r iard bresennol i leoli cynwysyddion storio yng Nghlwb Golff Ynys Môn, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod yr aelodau’n derbyn bod y clwb mewn trafferthion ariannol a phe byddai’n cau byddai swyddi’n cael eu colli ynghyd ag adnodd lleol pwysig. Er eu bod yn derbyn bod y safle, yn dechnegol, mewn cefn gwlad agored mae’n edrych yn debycach i safle tir llwyd.

 

(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais.)   

 

7.8 HHP/2024/56 – Cais llawn ar  ...  view the full Penderfyniad text for item 7

Cofnodion:

7.1  FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned breswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol oherwydd pryderon lleol am orddatblygu, yr angen am yr unedau hyn, diffyg lle parcio a mynediad i mewn ac allan o'r safle. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, 2024 penderfynodd yr aelodau gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2024.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Gan siarad i gefnogi'r cais, dywedodd Mr Owain Hughes, Asiant yr ymgeiswyr, fod Neuadd y Sir yn adeilad pwysig yng nghanol y dref hon, adeilad sydd wedi bod yn strwythur pwysig wrth ddod i mewn i'r dref hanesyddol.  Mae'r cais hwn yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd ychwanegu gwerth at y tir a datblygu'r hen adeilad. Gwnaed gwaith gyda'r adran gynllunio, i lunio adeilad modern sydd hefyd yn cyd-fynd â'r adeilad hanesyddol. Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac maen nhw wedi cytuno nad oes unrhyw broblemau llifogydd. Mae'r Adran Briffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gyda'r ddarpariaeth barcio ar y safle ac mae meysydd parcio eraill yn Llangefni.

 

Mae effaith y cynnig, yn enwedig ar amwynder defnyddwyr tir gerllaw wedi cael ei ystyried yn unol â'r meini prawf ac mae'r cais arfaethedig wedi'i leoli tua 53 metr oddi wrth y tŷ preswyl agosaf ar Ffordd Glanhwfa. Rhwng yr adeilad arfaethedig a'r adeilad preswyl agosaf mae maes parcio mawr sy'n cael ei ddefnyddio gan staff Cyngor Sir Ynys Môn. Oherwydd y pellter, a'r pellter rhwng y cais arfaethedig a'r eiddo preswyl agosaf, ni ystyrir bod effaith negyddol ar amwynderau preswyl cyfagos.  Mae'r cais arfaethedig yn cydymffurfio â'r holl bolisïau, mae'r ymgynghorwyr statudol yn fodlon â'r datblygiad. Mae màs yr adeilad a’r newidiadau a wnaed bellach yn dderbyniol i'r adran ac nid yw'n niweidiol i'r adeilad rhestredig.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Llangefni’n cael ei nodi fel Canolfan Wasanaeth Drefol o dan Bolisi TAI 1 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae’r polisi hwn yn cefnogi datblygu tai i gyflawni strategaeth y Cynllun trwy ddyraniadau tai a safleoedd addas heb eu dyrannu o fewn y ffin ddatblygu, yn seiliedig ar y ddarpariaeth ddangosol a ddangosir yn y Polisi.  Y cyflenwad dangosol ar gyfer Llangefni dros gyfnod y Cynllun yw 673 uned.  Yn ystod y cyfnod 2011 i 2022, cwblhawyd cyfanswm o 197 uned.  Ym mis Ebrill 2022, roedd 67 uned yn y banc tir safleoedd ar hap, h.y. safleoedd sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn barod ac sy’n debygol o gael eu datblygu; roedd 235 uned yn y banc tir safleoedd dynodedig.  Mae hyn yn golygu na fyddai’r datblygiad hwn yn darparu mwy na’r ddarpariaeth dai ddangosol yn Llangefni.  O ystyried y ffigurau uchod o dan faen prawf (1b) Polisi PS1, nid oes angen datganiad iaith Gymraeg i gefnogi'r cais.  Mae datganiad tai wedi dod i law gyda'r cais cynllunio ac mae'r Adran Dai wedi cadarnhau bod angen eiddo 3 ystafell wely yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7