Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 4 MB

12.1 FPL/2024/37 – Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus

        FPL/2024/37

 

12.2 FPL/2023/353 - Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

        FPL/2023/353

 

12.3 FPL/2020/104 – Stâd Ty'n Llain, Llanfairpwll

        FPL/2020/104

 

12.4 FPL/2023/364 - Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi

        FPL/2023/364

 

12.5 VAR/2024/31 – Tir ger Stâd Bryn Glas, Brynsiencyn.

        VAR/2024/31

 

12.6 FPL/2024/66 - Bryncelli Ddu, Llanddaniel

        FPL/2024/66

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  FPL/2024/37 – Cais llawn am estyniad i'r ganolfan ddydd i ddarparu llety preswyl yn Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  FPL/2023/353 – Cais llawn ar gyfer codi 54 o anheddau newydd, adeiladu mynedfa a ffordd newydd i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb 106 i sicrhau tai fforddiadwy.

 

12.3  FPL/2020/104 - Cais llawn ar gyfer gosod system reoli dŵr wyneb oddi ar y safle er mwyn gwasanaethu’r datblygiad preswyl cyfagos a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio cyfeirnod 31C170E (Cais llawn ar gyfer codi 16 annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr) ar dir gyferbyn  ag Ystâd Ty’n Llain, Llanfairpwll.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2023/364 – Cais llawn i dynnu’r twnnel polythen presennol, codi adeilad cymunedol newydd i’w ddefnyddio gan y gymuned a’r ysgol, chodi ffensys a chreu ardal barcio newydd yn Ysgol Gymraeg Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  VAR/2024/31 - Cais o dan Adran 73A er mwyn diwygio amod (18) (cynnal a chadw'r fynedfa a ffyrdd yr ystâd yn y dyfodol) er mwyn cyflwyno'r wybodaeth ar ôl dechrau datblygu’r safle ac amod (22b) (adroddiad o waith archeolegol) er mwyn darparu'r wybodaeth o fewn 18 mis i gwblhau'r gwaith maes archeolegol o ganiatâd cynllunio FPL/2022/46 (codi 12 annedd) ar dir ger Ystâd Bryn Glas, Brynsiencyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  FPL/2024/66 – Cais llawn i godi sied amaethyddol ym Mryncelli Ddu, Llanddaniel.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd (effaith weledol a materion draenio).

 

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2024/37 – Cais llawn am estyniad i'r ganolfan ddydd i ddarparu llety preswyl yn Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy'n eiddo i'r cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi'i leoli yng nghlwstwr gwledig Capel Mawr fel y'i diffinnir o dan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Ar y safle presennol ceir adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel annedd, ond yn ddiweddar mae gwaith wedi’i wneud arno i’w newid yn ganolfan gofal dydd yn unol â chaniatâd FPL/2021/310. Mae’r adeilad yn un llawr gyda digon o gwrtil a 2 fynedfa breifat oddi ar y ffordd gyhoeddus i fynd i mewn ac allan o’r safle.  Mae’r cais hwn ar gyfer codi estyniad yng nghefn yr adeilad a fydd yn creu lle ar gyfer 3 ystafell wely, a ddefnyddir fel llety ar gyfer 1 aelod staff a 2 ddefnyddiwr gwasanaeth.  Ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TAI 11, gan fod y safle o fewn llain fawr o dir ac na fyddai'n niweidiol i'r eiddo cyfagos.  Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais gan y bydd y cynnig yn defnyddio'r fynedfa a’r allanfa bresennol fel y cymeradwywyd yn flaenorol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  FPL/2023/353 – Cais llawn ar gyfer codi 54 o anheddau newydd, adeiladu mynedfa a ffordd newydd i gerbydau ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir ger Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch gorddatblygu'r ardal, diogelwch y briffordd a phryderon lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Gan siarad i gefnogi'r cais, dywedodd Asiant yr ymgeisydd, fod caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi i ddatblygu'r safle ac mae'r cais hwn gan Clwyd Alyn ar gyfer codi 54 o anheddau yn cynnwys 4 byngalo dwy ystafell wely, 1 byngalo dwy ystafell wely ac 1 byngalo tair ystafell wely gyda’r ddau yn hygyrch i gadeiriau olwyn, 10 annedd dwy ystafell wely, 12 annedd tair ystafell wely, 6 annedd pedair ystafell wely ac 20 fflat un ystafell wely. Mae nifer yr anheddau yn uwch na'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol, ond mae hyn oherwydd bod y cais hwn yn cynnig cartrefi a fflatiau llai i ddiwallu'r angen lleol am dai fforddiadwy. Mae'r safle o fewn ffin datblygu Caergybi ac mae wedi'i ddynodi ar gyfer datblygu tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae'r CDLl ar y Cyd yn amcangyfrif bod y safle yn addas ar gyfer 53 o unedau (un yn llai na'r cynnig hwn). Felly, mae'r cais hwn yn cydymffurfio â'r CDLl ar y Cyd ac yn gwneud gwell defnydd o'r safle na'r cais a gymeradwywyd yn flaenorol.   Mae'n bwysig nodi, er bod y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12