5 Hunan Asesiad Corfforaethol 2023/24 PDF 684 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu dogfen Hunan-asesiad Corfforaethol 2023/24 fel fersiwn terfynol yn dilyn ystyriaeth a sylwadau ar ei gynnwys gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2024.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys adroddiad hunanasesu corfforaethol blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fel y trydydd adroddiad hunanasesu a gynhyrchwyd gan y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021. Mae'r adroddiad yn sail dystiolaeth o sut mae'r Cyngor wedi perfformio dros y flwyddyn gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael wrth reoli a lliniaru risgiau cysylltiedig. O'r saith maes allweddol sy'n ganolbwynt i'r hunanasesiad, asesir bod pedwar maes (cynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, cynllunio'r gweithlu a rheoli perfformiad) yn rhagori ar ddisgwyliadau tra asesir bod tri maes (rheoli asedau, caffael a rheoli contractau, a rheoli risg ac archwilio) yn bodloni disgwyliadau. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi cyfleoedd i wella a monitro sawl maes yn ystod 2024/25 a chraffwyd ar y gwaith gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth ar yr adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol o'i gyfarfod ar 13 Mehefin 2024 gan gadarnhau bod y Pwyllgor, wrth gymeradwyo'r adroddiad, wedi gofyn am ddiweddariad ymhen chwe mis ynghylch y cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu mewn perthynas â'r tri maes allweddol a aseswyd fel rhai sy'n bodloni disgwyliadau (yn hytrach na rhagori ar ddisgwyliadau), a bod yr adroddiad hunanasesu ar gyfer 2024/25 yn dangos sut mae'r camau hynny wedi gwella'r perfformiad ar gyfer y tri maes allweddol hynny.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y meysydd lle nodwyd bod cyfleoedd i wella a monitro a rhoddodd sicrwydd eu bod i gyd yn cael sylw a'u bod yn symud ymlaen yn dda.
Croesawodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad fel tystiolaeth o ymrwymiad parhaus a gwaith caled staff a'u parodrwydd i fynd y filltir ychwanegol fel yr adlewyrchir gan y meysydd yr aseswyd fel rhai sy’n rhagori ar ddisgwyliadau. Diolchodd yr Aelodau i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi'r hunanasesiad a’r broses gadarn o herio perfformiad ar hyd y flwyddyn. Mae'r canlyniad yn glod i'r Awdurdod mewn cyfnod anodd yn ariannol ac mae'n dangos ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Bydd yr Awdurdod yn parhau i ymdrechu i gynnal perfformiad a gwneud yn well lle y bo'n bosibl. Yn y cyd-destun hwn, tynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol sylw at wydnwch ariannol y Cyngor fel un o'r meysydd i'w monitro yn y flwyddyn ariannol bresennol yn sgil pwysau costau byw a gostyngiad mewn cyllid. Pwysleisiodd ei fod yn bwysig bod y cyhoedd yn ymwybodol y gallai gwasanaethau fod mewn risg os nad yw’r cyngor hwn a chynghorau eraill yn derbyn setliad ariannol teg ar gyfer 2025/26.
Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts am sicrwydd bod y mater RAAC yn asedau'r cyngor wedi cael sylw penodol.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y cyfeiriad at RAAC yn yr adroddiad mewn perthynas â chwblhau'r gwaith adnewyddu yn y ddwy ysgol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5