Mater - cyfarfodydd

Change to the Constitution – Concerns and Complaints Policy

Cyfarfod: 24/09/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Newid y Cyfansoddiad – Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell y canlynol i’r Cyngor Llawn –

·      Bod y Polisi Pryderon a Chwynion a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau yn cael eu tynnu o Gyfansoddiad y Cyngor a dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro i wneud unrhyw newidiadau o ganlyniad i’r penderfyniadau hyn.

·       Bod y Polisi Pryderon a Chwynion, a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau (ynghyd â’r holl ddogfennau ategol perthnasol) ar gael yn rhwydd ar wefan y Cyngor.

·      Ni fydd y Cyngor llawn bellach yn gyfrifol am gymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau, a byddant yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith; neu gan y Swyddog Monitro, o dan bwerau dirprwyedig, os nad yw’r newidiadau’n darparu dewis lleol, neu’n fân newidiadau. Bydd unrhyw newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contractau bob amser yn cael eu trafod â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn gofyn am farn y Pwyllgor Gwaith ar newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â'r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau, i'w hargymell i'r Cyngor Llawn.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a amlinellodd y newidiadau oedd yn cael eu cynnig a'r ffactorau perthnasol i’w hystyried, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Y cynnig oedd tynnu’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau’r Weithdrefn Contractau o'r Cyfansoddiad a bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r holl newidiadau perthnasol iddynt yn y dyfodol. Byddai’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau’r Weithdrefn Contractau, ynghyd â dogfennau ategol yn ymddangos mewn man amlwg ar wefan y Cyngor. Byddai'r newidiadau yn fodd i adolygu a diwygio’n fwy amserol a byddent yn cyflwyno proses fwy hyblyg ac ymatebol. Byddai cyhoeddi’r Polisi a’r Rheolau uchod a dogfennau yn amlwg ar wefan y Cyngor yn sicrhau tryloywder, yn ogystal â gwneud y sefyllfa’n eglur ac yn haws i’r cyhoedd ei ddeall pan fyddant yn dymuno dilyn y broses gwyno ac i gontractwyr/busnesau a fyddai’n dymuno gwneud cais am gontractau’r Cyngor. Nid oedd unrhyw ofyniad cyfreithiol i gynnwys y Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau’r Weithdrefn Contractau yn y Cyfansoddiad ac nid oedd rheoleiddwyr y Cyngor yn disgwyl iddo wneud hynny. Nid oedd unrhyw risgiau nac anfanteision i’r cynnig.