7.1 FPL/2024/64 - Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl
7.2 FPL/2024/40 - Anglesey Golf Club, Station Road, Rhosneigr.
7.3 FPL/2023/15 – Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd
7.4 FPL/2024/66 - Bryncelli Ddu, Llanddaniel
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 FPL/2024/64 – FPL/2024/64 - Cais llawn i ddymchwel y tŷ presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le a chadw'r fynedfa, lôn a llefydd parcio newydd i gerbydau yn Nhyddyn Dylifws, Tyn y Gongl
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
7.2 FPL/2024/40 - Cais llawn i ddefnyddio’r iard bresennol i leoli cynwysyddion storio yng Nghlwb Golff Ynys Môn, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr
Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd ac i awdurdodi’r Swyddogion i osod amodau cynllunio priodol ynghlwm â’r caniatâd yn cynnwys gwaith tirweddu i liniaru unrhyw effaith weledol.
7.3 FPL/2023/15 – Cais llawn i godi 15 annedd fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr a chreu ffordd fewnol, ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn uno ag argymhelliad y swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ac ar lofnodi cytundeb Adran 106 i sicrhau bod darpariaeth tai fforddiadwy ynghyd â chyfraniad ariannol i’r ysgol ac ar gyfer mannau agored. Awdurdodi’r Swyddogion i addasu a/neu ychwanegu at yr amodau fel bo’n briodol.
7.4 FPL/2024/66 – Cais llawn i godi sied amaethyddol ym Mryncelli Ddu, Llanddaniel
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Cofnodion:
7.1 FPL/2024/64 – Cais llawn i ddymchwel y tŷ presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le a chadw'r fynedfa, lôn a llefydd parcio newydd i gerbydau yn Nhyddyn Dylifws, Tyn y Gongl
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 24 Gorffennaf 2024, penderfynodd y pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod y pwyllgor o’r farn bod y cais y groes i faen prawf 7 ym mholisi TAI 13.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y rheswm a gofnodwyd gan y Pwyllgor dros wrthod y cais yn ei gyfarfod ar 24 Gorffennaf sef bod y cais yn groes i faen prawf 7 ym Mholisi Tai 13 (Ail-adeiladu Tai), sy’n nodi y dylai gosodiad a dyluniad y datblygiad newydd cyfan, y tu allan i ffiniau datblygu, fod o faint a graddfa debyg a ni ddylai greu effaith weledol sy’n sylweddol fwy na’r adeilad presennol, fel y gall ymdoddi neu integreiddio’n ddigonol i mewn i’r dirwedd.
Bydd y cais yn arwain at annedd sydd 129% yn fwy na’r annedd bresennol; fodd bynnag, mae’r annedd newydd yn cynnwys dyluniad o ansawdd uchel sy’n defnyddio deunyddiau o ansawdd megis cladin carreg, paneli coed a llechi Cymreig naturiol, a law yn llaw â gwaith tirlunio priodol, bydd yn gwella dyluniad yr annedd bresennol ac yn cyd-fynd â’r dirwedd. Mae gan yr annedd bresennol estyniad to fflat dau lawr yn y cefn, nad yw’n cyd-fynd â ffurf gyffredinol y datblygiad yn yr ardal. Er y bydd yr annedd newydd yn fwy o ran graddfa a maint gan y bydd y gofod to yn cael ei gynyddu, ni fydd yn cael effaith weledol fwy sylweddol na’r annedd bresennol. Nid yw safle’r cais wedi’i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol nac Ardal Tirwedd Arbennig a bydd yn weledol dim ond o bellter cyfagos. Bydd yr adeilad newydd ddim ond 2m yn uwch na’r eiddo gerllaw ac felly nid ellir dod i gasgliad rhesymol y bydd yn cael effaith weledol fwy sylweddol na’r annedd bresennol. Felly, yr un yw’r argymhelliad sef bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Siaradodd y Cynghorwyr Margaret M. Roberts ac Ieuan Williams fel Aelodau Lleol gan ailadrodd eu gwrthwynebiad i’r cais oherwydd bod yr adeilad arfaethedig yn fwy o ran graddfa a maint na’r adeilad presennol. Yn eu barn hwy, bydd yr adeilad yn anghydnaws â’r a’r hyn sydd o’i gwmpas a’r tirlun ac felly mae’r cais yn groes i faen prawf 7. Nid oeddent o’r farn bod amgylchiadau eithriadol yn bodoli i gyfiawnhau cefnogi’r cais yn yr achos hwn. Mae’r adeilad arfaethedig ddwywaith yn fwy na’r adeilad presennol ac mae wedi’i leoli mewn cefn gwlad agored. Dywedodd y Cynghorydd Williams nad oes ganddo broblem â’r polisi ail-adeiladu tai, gan nad yw rhai strwythurau’n addas i’w hadnewyddu oherwydd eu cyflwr, cyn belled bod graddfa a maint yr annedd newydd yn debyg i raddfa a maint yr adeilad gwreiddiol. Mae’r Cyngor wedi cael ei feirniadu am ganiatáu anheddau anferthol yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7