4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 207 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Hydref 2024 i Mai 2025 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Hydref 2024 i Mai 2025.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i'r Pwyllgor Gwaith ar yr eitemau oedd yn newydd i'r Blaenraglen Waith ynghyd ag eitemau oedd wedi'u haildrefnu ar gyfer y cyfnod adrodd. Newid ychwanegol i’r Flaenraglen Waith ers ei chyhoeddi oedd gohirio’r Cynllun Strategol Caffael a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau newydd, o gyfarfod 22 Hydref 2024 i gyfarfod Rhagfyr 2024 gan na fydd y Ddeddf Caffael 2023 newydd, bellach, yn dod i rym yn llawn tan fis Chwefror 2025.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Hydref 2024 i Mai 2025 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod.