5 Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 1, 2024/25 PDF 332 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer 2024/25 a nodi’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol. Mae’r rhain mewn perthynas â Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth sydd yn derbyn ymateb o fewn yr amserlen; canran o fusnesau risg uchel wedi cael eu harolygu yn unol â safonau hylendid bwyd a gweithio gyda gwasanaethau i sicrhau y gellir adrodd ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol newydd o Ch2 ymlaen er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth o berfformiad a thueddiadau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 2024/25. Defnyddir yr adroddiad ar y cerdyn sgorio i fonitro perfformiad dangosyddion perfformiad allweddol y Cyngor wrth gyflawni ei weithgareddau o ddydd i ddydd, sy’n sail i gyflawni Cynllun y Cyngor.
Rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer drosolwg o'r adroddiad ar fonitro’r cerdyn sgorio yn ei fformat newydd a ddeuai â'r cynnwys yn nes at amcanion Cynllun y Cyngor a'r amcanion strategol. Dywedodd fod y mwyafrif (94%) o ddangosyddion, y cafodd eu targedau eu monitro yn ystod y chwarter, wedi perfformio'n dda yn erbyn eu targedau, gyda rhai enghreifftiau o berfformiadau cryf yn y Gwasanaethau Oedolion, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y Gwasanaethau Tai, y Gwasanaeth Cynllunio, y Gwasanaeth Gwastraff, y Gwasanaeth Rheoli a’r Gwasanaeth Hamdden; gyda’r rhain i gyd yn adlewyrchu dechrau cadarnhaol i'r flwyddyn. Ymhlith y meysydd eraill lle llwyddodd y perfformiad i gyrraedd y targed neu ragori arno, roedd glanhau strydoedd, clirio achosion o dipio anghyfreithlon, ymdrin â chwynion ac absenoldebau staff. Roedd dau ddangosydd oedd yn tanberfformio yn y chwarter cyntaf yn ymwneud ag arolygiadau o fusnesau risg uchel i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd ac ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen. Cyfeiriai'r adroddiad at y rhesymau am y targedau a fethwyd yn ogystal ag at y camau adferol arfaethedig, gan gadarnhau y byddai’r Tîm Arweinyddiaeth yn monitro ac yn goruchwylio’r meysydd hyn er mwyn sicrhau y byddai’r perfformiad yn gwella wrth symud ymlaen. Gan fod nifer o'r dangosyddion perfformiad yn newydd i'r cerdyn sgorio, nid oedd gan lawer ohonynt dargedau ar hyn o bryd ac yno i osod gwaelodlin oeddynt. Ni fyddai ychydig o ddata ar gael tan ddiwedd y flwyddyn. Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi byddai’r cerdyn sgorio’n llenwi a thueddiadau'n cael eu monitro o'r ail chwarter, gyda'r nod o osod targedau yn 2025/26.
Mynegodd y Cynghorydd Carwyn Jones werthfawrogiad y Pwyllgor Gwaith o waith staff y Cyngor i sicrhau canlyniadau mor galonogol yn chwarter cyntaf 2024/25 a roddodd sylfaen gadarn i adeiladu arni am weddill y flwyddyn.
Adroddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, o gyfarfod y pwyllgor ar 17 Medi, oedd wedi ystyried cerdyn sgorio Chwarter 2024/25. Wrth argymell yr adroddiad cerdyn sgorio i'r Pwyllgor Gwaith, roedd yr aelodau Sgriwtini wedi nodi perfformiad cadarnhaol y mwyafrif o ddangosyddion allweddol y Cyngor ar ddiwedd y cyfnod ac wedi ceisio sicrwydd y byddai'r ddau ddangosydd oedd yn tanberfformio yn gwella ac y byddai gwaith gyda gwasanaethau yn cychwyn. Fel hyn, roedd modd sicrhau y gellid adrodd ar y Dangosyddion Perfformiad Allweddol hynny, nad oedd data ar eu cyfer ar gyfer y chwarter cyntaf, o'r ail chwarter ymlaen, fel bod moddcael gwell dealltwriaeth o dueddiadau perfformiadau.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Craffu am yr adborth a, hefyd, eto i staff y Cyngor am eu gwaith yn cyflawni canlyniadau chwarter cyntaf clodwiw. Cyfeiriodd yn benodol at ei ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5