Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring - Quarter 1, 2024/25

Cyfarfod: 24/09/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2024/25 pdf eicon PDF 648 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·           Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B a C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2024/25

·           Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2024/25, y manylir arnynt yn Atodiad CH

·           Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau D a DD.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor gan gynnwys amrywiannau ar ddiwedd Chwarter 1 2024/25.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio dros Gyllid, a adroddodd mai’r rhagamcan cychwynnol yn seiliedig ar wybodaeth ar ddiwedd chwarter cyntaf 2024/2025 fyddai gorwariant o £90k (0.05%) yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025. Er bod honno’n sefyllfa foddhaol, roedd yn gynnar yn y flwyddyn ariannol, roedd y rhagolygon ariannol yn ansicr a gallai’r sefyllfa newid. Y gobaith oedd y byddai cyllideb Canghellor y DU ar 30 Hydref yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y setliad ariannu am yr ychydig flynyddoedd nesaf gan gofio, hefyd, y rhybuddion oedd wedi’u cyhoeddi am y twll du mewn cyllid cyhoeddus.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y pwysau ar wasanaethau'r Cyngor gyda'r sefyllfa gyfunol gyffredinol ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor yn dangos gorwariant a ragwelir o £1.966k ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, fel yr adlewyrchwyd yn Nhabl 4 o'r adroddiad. Cyflwynwyd dadansoddiad o'r amrywiant a ragwelid fesul rhesymau yn Nhabl 5. Y prif faes oedd yn peri pryder oedd y Gwasanaethau Plant, lle'r oedd nifer y plant a gâi eu lleoli gyda darparwyr y tu allan i'r sir a chost pob lleoliad wedi cynyddu. Nid oedd hyn yn fater oedd yn unigryw i Ynys Môn, gyda’r rhan fwyaf o gynghorau yn wynebu’r un pwysau o ran costau a galw ar gyllidebau gofal cymdeithasol eu plant. Roedd y sefyllfa ariannol gyffredinol wedi gwella oherwydd swyddi gwag a rhagwelwyd y byddai incwm cyffredinol y Cyngor yn uwch na’r gyllideb o £620k, gyda lefelau incwm yn y gwasanaethau Hamdden a Phriffyrdd yn sylweddol uwch na’r targed incwm. Er ei bod yn anodd rhagweld yn gywir y sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn mor fuan â hyn yn y flwyddyn ar sail gwariant gwirioneddol un chwarter, roedd yno ffactorau a ychwanegai at yr ansicrwydd, oedd yn ymwneud yn bennaf â’r dyfarniadau cyflog oedd eto i'w datrys ar gyfer staff nad oeddynt yn addysgu a staff addysgu ac a gâi effaith ar sefyllfa ariannol derfynol y Cyngor, fel y’u manylwyd yn adran 8.2 o'r adroddiad.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith yr heriau oedd yn wynebu gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac oedd i’w gweld ar draws cynghorau Cymru a’r DU yn genedlaethol, yn ogystal â’r ansicrwydd ynghylch dyfarniadau cyflog oedd heb eu datrys ac oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ond a allai effeithio’n sylweddol ar ei gyllideb.

 

Penderfynwyd –

 

·         Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B a C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2024/25

·         Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2024/25, y manylir arnynt yn Atodiad CH

·         Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau D a DD.