8 Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2024/25 PDF 437 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod chwarter.
· Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol, gwerth £11.369m, a gostyngiad o £1.345m yng nghyllideb y CRT i’r rhaglen gyfalaf, a newidiadau mewn cyllid yn unol ag Atodiad C yr adroddiad, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £69.361m ar gyfer 2024/25.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, a nodai berfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf am chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2024/25.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Gyllid, a adroddodd fod y gwariant cyfalaf gwirioneddol hyd at 30 Mehefin 2024 yn £9.533m yn erbyn y gyllideb broffiliedig o £10.790m, gyda £1.345m arall mewn gwariant ymrwymedig, yn dod â chyfanswm y gwariant ar gyfer y chwarter i £10.878m. Er bod y gyllideb broffiliedig a wariwyd hyd at ddiwedd y chwarter cyntaf ar gyfer y gronfa gyffredinol yn 104%,11% yn unig o’r gyllideb flynyddol oedd wedi ei wario hyd yma, a hynny oherwydd bod nifer o’r cynlluniau cyfalaf wedi eu pwysoli tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol. Roedd y canlyniadau ar ddiwedd chwarter 1 a'r gwariant rhagamcanol cysylltiedig yn dangos bod mwyafrif y prosiectau ar darged i'w cwblhau o fewn y gyllideb er y gallai’r sefyllfa newid wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, gan ei bod yn gynnar yn y flwyddyn ariannol,
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ddibyniaeth y Cyngor ar grantiau allanol am ran helaeth o’i raglen gyfalaf, gyda rhai ohonynt yn cael eu dyfarnu’n flynyddol a rhai ar sail gystadleuol. Roedd y rhaglen gyfalaf yn cymryd peth amser i fagu momentwm, gyda nifer o gynlluniau wedi'u hamserlennu i gael eu traed danynt yn iawn yn chwarteri 2 a 3. Gallai nifer o ffactorau gael effaith ar eu cynnydd, gan gynnwys y tywydd yn ystod chwarteri 3 a 4. Fodd bynnag, £0.700m oedd y tanwariant a ragwelid ar y rhaglen oedd yn seiliedig ar wybodaeth chwarter 1 - rhywbeth calonogol.
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod chwarter.
· Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol, gwerth £11.369m, a gostyngiad o £1.345m yng nghyllideb y CRT i’r rhaglen gyfalaf, a newidiadau mewn cyllid yn unol ag Atodiad C yr adroddiad, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £69.361m ar gyfer 2024/25.