Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account Budget Monitoring - Quarter 1, 2024/25

Cyfarfod: 24/09/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2024/25 pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

 

  • Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 1 2024/25
  • Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2024/25.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn nodi sefyllfa ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2024/25.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Gyllid, a adroddodd y dangosai gwarged/diffyg refeniw'r CRT ar ddiwedd y chwarter cyntaf danwariant o £270k, o gymharu â'r gyllideb broffiliedig. Y rhagolwg ar ddiwedd y flwyddyn oedd tanwariant o £23k, fel y manylid arno yn Atodiad A yr adroddiad. Roedd y gwariant cyfalaf £93k yn is na'r gyllideb broffiliedig ar ddiwedd chwarter 1 ond rhagwelwyd y byddai o fewn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn, fel yr eglurid yn Atodiad B yr adroddiad. Y disgwyl oedd y ceid yn llawn y gyllideb o £10,578k ar gyfer yr incwm grant ac y câi £509k o'r gronfa wrth gefn a glustnodwyd ei ddefnyddio'n llawn erbyn diwedd y flwyddyn. £10,093k oedd y diffyg a ragwelid (oedd yn cyfuno refeniw a chyfalaf), swm oedd £23k o dan y gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, o ran sefyllfa'r CRT yn y dyfodol, bod disgwyl i falans y gronfa wrth gefn ostwng i £1,177k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, er bod y balans ar yr arian wrth gefn, yn y gorffennol, wedi bod yn iach ac wedi ei ddefnyddio i ariannu gwariant cyfalaf ar ddatblygiadau tai newydd ac ar gynnal a chadw stoc tai'r Cyngor i Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC). Yn hynny o beth, byddai angen ystyried sut y câi cost cynnal y stoc bresennol ei ariannu yn y dyfodol ac, er bod benthyca yn bosibl, nid oedd yn gynaliadwy benthyca'n flynyddol i gynnal y stoc tai gan na fyddai'n ychwanegu dim at lefelau incwm yr CRT. Er bod chwyddiant uchel wedi cael effaith ar gostau cynnal a chadw yn y tair blynedd diwethaf, nid oedd incwm rhent wedi cadw i fyny i'r un graddau, a olygai bod y gwarged ar yr ochr refeniw wedi lleihau gyda llai ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf. At hyn, roedd SATC wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru yn 2023 i osod targedau mwy manwl-gywir ar gyfer tai cymdeithasol - targedau a fyddai’n ddrutach i’w cyrraedd. Câi’r materion hyn eu hystyried wrth lunio Cynllun Busnes a Strategaeth yr CRT ac roedd yn debygol y byddai angen i weddill y cynghorau hynny yng Nghymru oedd â’u stoc tai eu hunain, gael sgwrs gyda Llywodraeth Cymru am safonau ansawdd a lefelau rhent a pha mor gynaliadwy oedd y sefyllfa. Wrth fynd ymlaen, cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 nad oedd y materion hynny yn cael effaith ar y flwyddyn gyfredol gan fod digon o gyllid ar gael i fuddsoddi yn y stoc tai presennol ac i godi tai newydd, fel y’u cynlluniwyd.

 

 

Wrth gynnig yr adroddiad cytunodd y Cynghorydd Robin Williams fod angen adolygu’r sefyllfa, naill ai o ran lefelau rhent neu’r disgwyliadau o ran cynnal a chadw’r stoc dai i Safonau Ansawdd Tai Cymru, a thra bod y Cyngor wedi ymrwymo i barhau i ddarparu ansawdd uchel i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9