Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Plan 2025/26 - 2026/27

Cyfarfod: 24/09/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2026/27 pdf eicon PDF 706 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig  2025/26 - 2026/27 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed ynddo.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig am 2025/26 i 2026/27 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo. Roedd y Cynllun hwn yn nodi’r adnoddau tebygol yr oedd y Cyngor eu hangen am y tair blynedd ariannol nesaf, gan fanylu ar sut roedd y Cyngor yn bwriadu cydbwyso’r arian yr oedd ei angen gyda’r cyllid oedd ar gael. Roedd yn cadw mewn cof yr holl newidiadau hysbys yr oedd angen eu cynnwys yng nghyllideb sylfaenol 2024/25 ac yn gwneud rhagdybiaethau ar y prif ffactorau a gâi effaith ar gyllideb refeniw’r Cyngor (costau cyflog, pensiynau, chwyddiant cyffredinol, cyllid Llywodraeth Cymru, demograffig a phwysau galw).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Gyllid fel datganiad blynyddol cyn y gyllideb, fel oedd yn ofynnol gan Gyfansoddiad y Cyngor. Amlinellai sefyllfa ariannol gyfredol y Cyngor a nodi’r rhagamcanion ar gyfer y tair blynedd nesaf, ynghyd â’r rhagdybiaethau yr oedd y rhagamcanion yn seiliedig arnynt a'r materion ariannol a wynebai'r Cyngor dros y cyfnod hwnnw. Roedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i lunio yn ystod cyfnod o ansicrwydd economaidd parhaus oedd yn ei gwneud hi'n anodd rhagweld sut byddai’r sefyllfa ariannol gan y gallai'r sefyllfa newid yn sylweddol dros y cyfnod.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth esboniad manwl o sefyllfa ariannol y Cyngor a'r gofynion cyllidebol rhagamcanol dros y tair blynedd ariannol nesaf fel y'u hadlewyrchwyd yn yr adroddiad, gan gymryd i ystyriaeth yr holl faterion perthnasol gan gynnwys pwysau cyllidebol lleol a chenedlaethol, fel y’u disgrifir yn adrannau 5 a 6 o'r adroddiad. Rhoddid amcangyfrif o’r gyllideb refeniw am bob un o’r blynyddoedd ariannol am 2025/26 i 2027/28 yn Nhabl 8 yr adroddiad, yn seiliedig ar y senario mwyaf tebygol ar gyfer yr holl ragdybiaethau (roedd enghreifftiau o’r senarios gorau a gwaethaf wedi’u nodi yn Nhabl 9) a bod gofyn cael cyllideb ychwanegol o £11.841m am 2025/26. Er mwyn ariannu'r gofyniad hwn, yn ogystal â chyllid parhaol yn lle’r £4.425m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd i fantoli'r gyllideb yn 2024/25, byddai angen i Gyllid Allanol Cyfun (AEF) y Cyngor godi 7% a Threth y Cyngor godi dros 17% (gweler Tabl 10 yr adroddiad). Os nad oedd cynnydd yn yr AEF, yna byddai'n rhaid i Dreth y Cyngor godi tua 36% er mwyn cynhyrchu digon o arian parhaol i gwrdd â'r gofyn cyllideb net amcangyfrifedig o £196.005m yn 2025/26. £3.88m ychwanegol yn unig fyddai cynnydd o 1% yn yr AEF yn ei gynhyrchu a chynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor. Byddai hyn yn gadael bwlch o £7.958m, ynghyd â chael rhywbeth yn lle’r £4.425m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd yn 2024/25 oedd yn mynd â’r diffyg i £12.382m. Roedd Adran 12 o'r adroddiad yn amlinellu'r llwybrau posibl oedd ar gael i'r Cyngor ddechrau mynd i'r afael â'r bwlch ariannu, gan gynnwys defnyddio rhyw gymaint ar falansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn. Dangosai’r dadansoddiad yn Atodiad 4 yr adroddiad y câi 85.9% o gyllideb gwariant net y Cyngor ei wario  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10