Mater - cyfarfodydd

Changes to the Constitution:scheme of Delegation to Officers

Cyfarfod: 26/09/2024 - Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem 13)

13 Newid y Cyfansoddiad - Cynllun Dirprwyo i Swyddogion pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Gorffennaf 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

 

·      Ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu Aelod Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

·      Caniatáu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), i ddiweddaru adran 3.5.3.10 o’r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r dirprwyaethau a roddwyd gan y penderfyniad.

·      Rhoi caniatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn galluogi i gyfieithiad Cymraeg o sylwadau’r Cyngor gael ei anfon at yr Arolygaeth Cynllunio yn dilyn eu cyflwyno yn y Saesneg. (Mae’r eithriad yma’n angenrheidiol gan nad yw amserlen yr archwiliad NSIP yn caniatáu amser digonol i sylwadau’r Cyngor gael eu cyfieithu erbyn y dyddiad cyflwyno).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar  23 Gorffennaf 2024, i’w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Adroddodd yr Arweinydd bod yr adroddiad yn cynnwys cais am Gynllun Dirprwyo mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Drwy ei Raglen Ynys Ynni, mae'r Cyngor, yn ymgysylltu ag amrywiaeth o ddatblygwyr sydd â diddordeb mewn adeiladu a gweithredu ar ddatblygiadau carbon isel ar yr Ynys, a oedd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad. Gan mai’r Arolygiaeth sy’n pennu’r amserlen archwilio, nid yw'n bosibl cysoni'r terfynau amser fel bod y Cyngor yn cyflwyno sylwadau a thystiolaeth gyda chylch pwyllgorau'r Cynghorau. Felly, gofynnir i’r Cyngor gefnogi cynllun dirprwyo i alluogi’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig â phrosiectau NSIP. Nid yw’r amserlen archwilio a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn caniatáu digon o amser i gyfieithu cyflwyniadau’r Cyngor erbyn y dyddiad cyflwyno. Gofynnir felly am ganiatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor i ganiatáu cyflwyno cyfieithiad Cymraeg o gyflwyniadau'r Cyngor  i'r broses archwilio ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Ni fydd y mesur hwn yn effeithio ar allu’r Cyngor i gydymffurfio â’r safonau darparu gwasanaeth statudol, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol gohebu’n Gymraeg/dwyieithog â’r cyhoedd a phersonau eraill yng Nghymru.  Bydd fersiwn Gymraeg o ddogfennau’r Cyngor ar gael bob amser ac ni chaiff unrhyw ddogfennau eu cyhoeddi na’u cyhoeddi’n gyhoeddus hyd nes y bydd cyfieithiad Cymraeg ar gael.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

 

  • Ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu Aelod Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor 4 mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
  • Caniatáu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), i ddiweddaru adran 3.5.3.10 o’r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r dirprwyaethau a roddwyd gan y penderfyniad.
  • Rhoi caniatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn galluogi i gyfieithiad Cymraeg o sylwadau’r Cyngor gael ei anfon at yr Arolygaeth Cynllunio yn dilyn eu cyflwyno yn y Saesneg. (Mae’r eithriad yma’n angenrheidiol gan nad yw amserlen yr archwiliad NSIP yn caniatáu amser digonol i sylwadau’r Cyngor gael eu cyfieithu erbyn y dyddiad cyflwyno).