5 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
PDF 238 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2024 i Mehefin 2025 gyda’r newidiadau ychwanegol a nodwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2024 i Fehefin 2025, i’w gadarnhau.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar yr eitemau newydd ar y Blaen Raglen Waith.
Dywedodd y Cadeirydd bod angen diwygio’r eitem ar yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol o dan y rhestr o eitemau sydd wedi’u rhaglennu ar gyfer mis Tachwedd 2024 gan mai’r Cynghorydd Robin Williams yw’r Aelod Portffolio erbyn hyn.
PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2024 i Fehefin 2025 gyda’r newidiadau ychwanegol a nodwyd yn y cyfarfod.