Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Annual Report 2023/24

Cyfarfod: 22/10/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Adolygiad Rheoli’r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 177 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

·       Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad yn parhau dros dro tan y bydd Archwiliad o Ddatganiad y Cyfrifon 2022/23 wedi ei gwblhau a’i lofnodi; bydd unrhyw addasiad sylweddol i’r ffigyrau yn yr adroddiad yn cael ei adrodd fel bo’n briodol.

·       Nodi dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro 2022/23 yn yr adroddiad.

·       Trosglwyddo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i gyfarfod nesaf y Cyngor llawn gydag unrhyw sylwadau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, a oedd y cynnwys yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/2024, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai. Yn unol â rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 mae’n ofynnol i’r Cyngor lunio adolygiad rheoli’r trysorlys blynyddol o’i weithgareddau a’r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2023/24. Mae’r adroddiad hwn yn bodloni gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys (y Cod) a Chod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus). Yn unol â’r Cynllun Dirprwyo, mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu ar yr adroddiad yn i gyfarfod ar 19 Medi 2024. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn unwaith y bydd wedi cael ei dderbyn gan y Pwyllgor hwn. Mae’r adroddiad yn darparu manylion am y sefyllfa alldro ar gyfer gweithgareddau trysorlys a buddsoddiadau a benthyciadau.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod yr archwiliad o gyfrifon ar gyfer 2023/2024 yn parhau, ond nad oes disgwyl i unrhyw faterion effeithio ar yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol.  Nododd mai’r strategaeth ariannol ers nifer o flynyddoedd yw cyfyngu benthyciadau a defnyddio balansau arian parod y Cyngor i ariannu gwariant cyfalaf. Mae hyn yn golygu ei fod yn osgoi costau benthyca ychwanegol pa fo cyfraddau llog yn uchel. Caiff unrhyw arian dros ben ei fuddsoddi yn y sector bancio neu ei fenthyca i awdurdodau lleol eraill (sy’n arfer cyffredin rhwng awdurdodau lleol). Mae balansau arian parod y Cyngor wedi gostwng yn ystod y flwyddyn gan fod y Cyngor ac ysgolion wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso cyllidebau refeniw a defnyddio balansau arian parod i ariannu gwariant cyfalaf yn hytrach na chymryd benthyciadau allanol.  Rhagwelir y bydd angen benthyca cyn diwedd y flwyddyn ariannol a hyderwn y bydd cyfraddau llog wedi gostwng erbyn hynny gan leihau costau benthyca.     

 

PENDERFYNWYD: -

 

  • Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad yn parhau dros dro tan y bydd Archwiliad o Ddatganiad y Cyfrifon 2022/23 wedi ei gwblhau a’i lofnodi; bydd unrhyw addasiad sylweddol i’r ffigyrau yn yr adroddiad yn cael ei adrodd fel bo’n briodol;
  • Nodi dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro 2022/23 yn yr adroddiad;
  • Trosglwyddo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i gyfarfod nesaf y Cyngor llawn gydag unrhyw sylwadau.