Mater - cyfarfodydd

Local Flood Risk Management Strategic Plan

Cyfarfod: 22/10/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Cynllun Strategol Rheoli Risg Llifogydd Lleol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PEDNERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd drafft a'r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol (LFRMS) ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Risg Llifogydd drafft, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod y Cynllun Risg Llifogydd yn darparu crynodeb o’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.  Nododd bod y ddwy ddogfen yn nodi cynlluniau’r Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Ynys Môn am gyfnod o chwe blynedd ac y byddant yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Mae datblygiad y Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd wedi’i ariannu drwy gyllidebau refeniw presennol a dyraniad rheoli perygl llifogydd blynyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau da o waith a gwblhawyd i liniaru llifogydd yn ardal Biwmares, y Fali, Dwyran a Phentraeth. 

 

Adroddodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i ddelio â llifogydd a pherygl llifogydd.  Bydd newid hinsawdd yn achosi mwy o law a stormydd. Mae gwaith yn cael ei gwblhau â sefydliadau partner a chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd, fodd bynnag bydd gallu’r Cyngor i gyflawni amcanion y Cynllun yn ddibynnol ar adnoddau ariannol ynghyd â chyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Aeth ymlaen i ddweud bod y gwaith ymgysylltu pellach a chodi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd yn hollbwysig, ond y bydd cyflawni’r amcanion hynny’n ddibynnol ar adnoddau staffio. 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod erydu arfordirol hefyd yn ffactor, a nododd ei bod hi’n hanfodol gweithio mewn partneriaeth i liniaru llifogydd. Cyfeiriodd ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y Wardeiniaid Llifogydd mewn cymunedau lleol, a bod y gwaith hwnnw’n ddibynnol ar gyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaeth y Cadeirydd ddiolch i’r staff am eu gwaith.   

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y llifogydd yn ei ward ef ym Mhorthaethwy a Llanfairpwll yn 2017. Fodd bynnag ni ddaethpwyd o hyd i ddatrysiad i liniaru’r risg o lifogydd pellach. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod dau ddigwyddiad yn 2017, un yn ardal Penlon, Porthaethwy a’r llall yn Llanfairpwll. Dywedodd bod adroddiad Rhan 19 yn cael ei gynhyrchu wedi i eiddo ddioddef llifogydd sy’n canolbwyntio ar yr effaith ar drigolion. Wedyn, cynhelir trafodaethau â Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid grant i baratoi achos busnes, sy’n broses hirfaith. Dywedodd y bydd yn heriol lliniaru llifogydd yn yr ardal hon gan fod sawl eiddo ar strydoedd cul ynghyd â busnesau, sy’n ei gwneud hi’n anodd symud y problemau draenio i’r cwrs dŵr. Mae gwaith sylweddol wedi cael ei gwblhau yn yr ardal ac mae gwaith yn dal i fynd rhagddo. Ond, mae heriau yn gysylltiedig â’r cynlluniau lliniaru i sicrhau na fydd llifogydd pellach. Mae problemau hefyd yn gysylltiedig â gosod pibellau mawr drwy erddi pobl a ger waliau terfyn gan fod hyn yn peri pryder i drigolion yr ardal.  Mae blaenoriaethu a rhaglennu’r cynlluniau yn heriol yn sgil costau uchel y gwaith sydd angen ei gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru’n ysgwyddo 85% o’r holl gostau ond mae’n ofynnol i’r Cyngor ariannu’r 15% sy’n weddill, sy’n swm sylweddol o arian.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7