Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring – Quarter 2, 2024/25

Cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 546 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod Chwarter 2.

·      Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £3.116m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf yn ystod chwarter 2, a newidiadau yn y cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £72.477m ar gyfer 2024/25.

·      Cymeradwyo dwyn ymlaen unrhyw danwariant posib, fel y nodir yn adran 4.2 yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol cyllideb gyfalaf y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a dangosodd wariant gwirioneddol o £22.781m hyd at ddiwedd 30 Medi 2024, yn erbyn cyllideb gyfalaf o £72.477m gyda £2.84m arall o wariant wedi'i ymrwymo sy'n dod â'r cyfanswm i £25.585m neu 35% o'r gyllideb gyffredinol. Y gwariant a ragwelir hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol yw £66.980m sy’n rhoi tanwariant a ragwelir o £5.497m fel llithriad posibl i 2025/26, manylir arno yn nhabl 4.1 yr adroddiad. Bydd y cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2025/26 a bydd yn cael ei ystyried wrth baratoi Datganiad Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Gyfalaf a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2025/26.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 at y cynlluniau grant cyfalaf yn y rhaglen gyfalaf ac at ddibyniaeth gynyddol y Cyngor ar gyllid grant i gefnogi gwaith cyfalaf. Cadarnhaodd fod mwyafrif y prosiectau yn mynd rhagddynt a'u bod ar y trywydd iawn i'w cwblhau o fewn y gyllideb a bod lefel y tanwariant wedi lleihau ond dywedodd y gall tywydd garw effeithio ar amserlenni a chyllidebau prosiectau yng nghyfnod y gaeaf Chwarter 3.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith nad arian grant yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ariannu prosiectau oherwydd yr ansicrwydd ynghlwm â grantiau, ond roedd yn cydnabod amser, arbenigedd ac ymdrech Swyddogion i sicrhau'r grantiau ar gyfer yr amrywiaeth o brosiectau a gofnodwyd.

 

Penderfynwyd –

 

·                Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod Chwarter 2.

·                Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £3.116m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf yn ystod chwarter 2, a newidiadau yn y cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £72.477m ar gyfer 2024/25.

·                Cymeradwyo dwyn ymlaen unrhyw danwariant posib, fel y nodir yn adran 4.2 yn yr adroddiad.