Mater - cyfarfodydd

Modernising Adults Services Strategic Plan

Cyfarfod: 26/11/2024 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Cynllun Strategol Moderneiddio’r Gwasanaeth Oedolion 2024-2029 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Moderneiddio Gwasanaethau Oedolion 2024-2029.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn cynnwys Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion 2024-2029 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd y Cynllun yn nodi blaenoriaethau Gwasanaeth Oedolion am cyfnod 2024-2029 i gyflawni amcanion Cynllun y Cyngor 2023-2028.

 

Cyflwynwyd Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion 2024-2029 gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fel un sy'n nodi cyfeiriad cadarn a chlir ar gyfer gwasanaethau oedolion gan gynnwys gwasanaethau i bobl hŷn, anableddau dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'r cynllun yn amlinellu camau pendant i ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil y disgwyliadau a’r galw cynyddol, argaeledd staff, adnoddau ariannol cyfyngedig a phoblogaeth sy'n heneiddio ac i foderneiddio elfennau o'r gwasanaeth fel eu bod yn briodol, yn fforddiadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiodd y Cynghorydd Alun Roberts bwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a'r trydydd sector i ddarparu'r math o gefnogaeth sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. O ystyried yr heriau, mae'r cynllun strategol o reidrwydd yn uchelgeisiol ac yn drawsnewidiol ar gyfer gwasanaethau oedolion ac mae'n ceisio sicrhau bod gwasanaethau i bobl agored i niwed yn cael eu darparu'n effeithiol, yn effeithlon a'u bod o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion nad yw aros yn yr unfan yn opsiwn, a bod yn rhaid i wasanaethau oedolion barhau i ddatblygu er mwyn ymateb i heriau parhaus. Er bod cost darparu gofal yn uchel mae risgiau os na fyddwn yn darparu'r gofal priodol. Nod y strategaeth yw sicrhau'r ddarpariaeth orau ar hyn o bryd yn ogystal â symud y gwasanaeth yn ei flaen yn seiliedig ar alluogi pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd, darparu gwasanaethau'n lleol, pwyslais ar atal a darparu'r cymorth priodol ar yr adeg briodol. Cyfeiriodd at y cyd-destun ac at gynnydd a ragwelir o 70% yn y boblogaeth dros 85+, y cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy’n dioddef o ddementia a'r ganran uchel o staff gofal y Cyngor sydd ar eu deng mlynedd olaf o wasanaeth fel rhai o'r heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol. Er bod y cynllun strategol yn nodi saith maes blaenoriaeth allweddol, o ystyried y cyfyngiadau ariannol, cydnabyddir efallai na fyddant i gyd yn cael eu cyflawni fel y byddai'r Cyngor yn dymuno ac efallai y bydd yn rhaid blaenoriaethu rhai elfennau o'r cynllun.

 

Gan siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, adroddiad o gyfarfod 20 Tachwedd 2024 y pwyllgor lle trafodwyd Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion. Roedd y pwyllgor sgriwtini wedi cydnabod yr angen i foderneiddio a thrawsnewid gwasanaethau oedolion er mwyn gwasanaethu dinasyddion Ynys Môn yn well nawr ac yn y dyfodol yn unol ag amcanion Cynllun y Cyngor ac roeddent hefyd wedi nodi'r heriau demograffig, ariannol ac o ran adnoddau a allai effeithio ar allu'r gwasanaeth i weithredu'r cynllun strategol. Roedd y pwyllgor wedi gofyn am sicrwydd y bydd y gwasanaeth yn gallu cyflawni ei amcanion a'r canlyniadau arfaethedig yn y cynllun. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12