13 Cynllun Strategol Môn Actif 2024/29
PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae Cynllun Strategol Môn Actif yn darparu cyfeiriad clir ac yn nodi meysydd blaenoriaeth allweddol a’r weledigaeth ar gyfer creu cymunedau iach ar Ynys Môn dros y cyfnod pum mlynedd nesaf.
Cyflwynwyd Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29 gan y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol. Y nod yw sicrhau bod gan y Cyngor gynllun cynaliadwy, y gellir ei gyflawni ac sy’n addas i'r diben i ddarparu gwasanaethau i wella iechyd a llesiant trigolion ac ymwelwyr â'r Ynys. Mae'r cynllun yn cydnabod yr angen i barhau i fuddsoddi yng nghyfleusterau hamdden y Cyngor a bydd gwneud y mwyaf o gyfleoedd am gyllid allanol yn allweddol i'r ymdrech honno. Mae'r cynllun strategol yn nodi pum maes blaenoriaeth sy'n cysylltu ag egwyddorion ehangach Cynllun y Cyngor 2023-28 ac mae'r rhain yn ymwneud â Chyfranogiad, Iechyd a Llesiant, Datblygu'r Gweithlu, Rheoli Cyfleusterau, Cynaliadwyedd Ariannol a Chydweithio. Cyfeiriodd y Cynghorydd Neville Evans at amrywiaeth y gweithgareddau hamdden gan Môn Actif ac at gynnydd mewn gweithgareddau yn y gymuned lle mae brand Môn Actif yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Mae rhaglenni gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol yn arbennig o boblogaidd ac mae lefelau presenoldeb yn dda. Er bod heriau'n parhau ac yn cael eu cydnabod, mae'r cynllun strategol yn nodi'r llwybr i sicrhau bod gwasanaeth Môn Actif yn dal i fod yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus yn y dyfodol.
Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y cynllun strategol yn ymestyn y tu hwnt i'r gwasanaeth hamdden yn unig ac y bydd yn arwain at fanteision cymdeithasol, economaidd ac iechyd ehangach gan adeiladu ar ffordd gydweithredol o weithio sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Disgwylir i'w effeithiau gael eu teimlo dros y blynyddoedd nesaf ac yn y dyfodol.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i gyflwyno safbwynt y pwyllgor sgriwtini ar Gynllun Strategol Môn Actif o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2024. Dywedodd y Cynghorydd Fowlie fod y pwyllgor wedi trafod sut mae'r cynllun strategol yn galluogi'r Cyngor i gyflawni Cynllun y Cyngor 2023-28. Roedd yr Aelodau wedi gofyn am sicrwydd ynghylch y ffynonellau data yn enwedig y data lleol mewn perthynas â gordewdra ymhlith plant a gofynnwyd cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd canolfannau hamdden y Cyngor a'r risgiau a'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor a'i bartneriaid wrth weithredu'r cynllun. Roedd y pwyllgor eisiau gwybod sut y gellid cynyddu’r niferoedd sy'n defnyddio cyfleusterau hamdden y Cyngor a nodwyd bod y DPA cenedlaethol presennol ond yn mesur y defnydd o ganolfannau hamdden ac nad yw'n cynnwys y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau Môn Actif yn y gymuned. Wrth argymell bod Cynllun Strategol Môn Actif yn mynd gerbron y Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo, roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi cytuno ar gamau ychwanegol a oedd yn cynnwys gofyn i'r Arweinydd a'r Aelod Portffolio ystyried gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu cwmpas y DPA cenedlaethol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13