6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 676 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 FPL/2024/76 – Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y swyddog.
Cofnodion:
Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.
6.1 FPL/2024/76 – Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll
Dywedodd y Cadeirydd bod y Swyddog yn argymell cynnal ymweliad safle er mwyn i’r aelodau allu gweld y safle a’r hyn sydd o’i gwmpas.
Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod ymweliad safle’n cael ei gynnal yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gynnal ymweliad safle gan y Cynghorydd Neville Evans.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.