Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 02/10/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 676 KB

6.1 FPL/2024/76 – Tir i’r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

FPL/2024/76

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1  FPL/2024/76 – Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y swyddog.  

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

6.1  FPL/2024/76 – Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y Swyddog yn argymell cynnal ymweliad safle er mwyn i’r aelodau allu gweld y safle a’r hyn sydd o’i gwmpas.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod ymweliad safle’n cael ei gynnal yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gynnal ymweliad safle gan y Cynghorydd Neville Evans.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.