7.1 – FPL/2023/173 – Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy
7.2 – FPL/2022/289 - Ynys Y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 FPL/2023/173 – Cais llawn gyfer newid defnydd yr hen dafarndy (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn gyfleuster gofal preswyl (Dosbarth Defnydd C2) ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy
7.2 FPL/2022/289 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd presennol ynghyd â chodi annedd a garej newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Ynys y Big, Ffordd Biwmares, Glyngarth, Porthaethwy
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
7.1 FPL/2023/173 – Cais llawn gyfer newid defnydd yr hen dafarndy (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn gyfleuster gofal preswyl (Dosbarth Defnydd C2) ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 4 Medi 2024 penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2024.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Owain Hughes, Russell Hughes Cyf., fel Asiant y cais. Dywedodd bod y cais yn ymwneud ag ailddatblygu hen dafarn. Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 2009 ac mae wedi mynd a’i ben iddo a dod yn ddolur llygaid a niwsans yn lleol. Mae'r datblygiad ar gyfer cyfleuster gofal preswyl, nid HMO fel yr honnwyd yn lleol. Bydd yn darparu cartref i bobl hŷn bregus sydd angen ychydig o sicrwydd, cymorth neu ofal ychwanegol. Mae’r bwriad yn cydymffurfio’n llawn â Pholisi Cynllunio TAI 11 gan fod y safle y tu mewn i’r ffin ddatblygu. Mae'r safle o fewn pellter cerdded i ganol y dref a chyfleusterau, gan gynnwys cyfleusterau trafnidiaeth i leoliadau eraill. Ymgynghorwyd â'r adran gwasanaethau cymdeithasol ar sawl achlysur ac maent yn gefnogol ac yn gallu cadarnhau bod angen cyfleuster o'r fath. Mae’r Swyddog Cadwraeth yn gefnogol i'r bwriad i adfer yr adeilad i'w ffurf wreiddiol, yn cynnwys tynnu’r ffenestri bae a chreu adeilad llawer mwy deniadol sy'n adlewyrchu'r adeilad gwreiddiol. Ymgynghorwyd â'r awdurdod priffyrdd ac maent yn gefnogol i'r bwriad. Ystyrir bod y llefydd parcio yn ddigonol o ystyried defnydd blaenorol yr adeilad fel tafarn, heb unrhyw ddarpariaeth parcio, a lleoliad cynaliadwy'r datblygiad gyda digon o lefydd parcio yn y dref. Mae’r adran gynllunio wedi derbyn nifer o lythyrau yn cefnogi’r cais ac mae’n amlwg bod busnesau a phobl leol am weld yr adeilad yma’n cael ei ailddatblygu. Mae gan y datblygwr hanes profedig o weithio'n agos gyda'r awdurdod ar ddatblygiadau o safon uchel ym Mhorthaethwy. Heb os, bydd y cynnig yn cael gwared ar adeilad sy’n niwsans cyhoeddus a dolur llygaid ym Mhorthaethwy. Bydd yr Awdurdod, cynghorwyr lleol a’r Heddlu yn derbyn llai o gwynion o ganlyniad a bydd felly’n lleihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae’r Datblygiad yn cyd-fynd â’r polisïau cynllunio, gofynion priffyrdd, cymeriad yr ardal gadwraeth a gofynion ecolegwyr.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu canolfan gwasanaethau lleol Porthaethwy. Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 15 mlynedd a bydd ei gyflwr yn parhau i ddirywio. Cyfleuster gofal preswyl gyda 10 ystafell wely (Dosbarth Defnydd C2) yw’r defnydd arfaethedig. Mae Polisi TAI 11 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn ymwneud â ‘Chartrefi Gofal Preswyl, Tai Gofal Ychwanegol neu Lety Arbenigol ar gyfer yr Henoed’ a dyma’r polisi mwyaf perthnasol o ran y cais hwn. Mae’r safle o fewn pellter cerdded rhesymol at wasanaethau a chyfleusterau yng nghanol y dref ac mae digon o wasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus ar gael. Mae’r cynnig felly’n cydymffurfio â maen prawf 1 a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7