12 Gweddill y Ceisiadau PDF 3 MB
12.1 – FPL/2024/105 - Tir i'r Gogledd-Ddwyrain o Gwel y Llan, Llandegfan
12.2 – FPL/2024/7 - 107-113, 116-122, 133-152 Stad Tan y Bryn, Y Fali
12.3 – FPL/2024/78 - Fflatiau Bron Heulog, Y Fali
12.4 – FPL/2024/29 – Tir yn Porth Amlwch
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2024/105 – Cais llawn i godi 30 o anheddau preswyl (100% o unedau tai fforddiadwy), newidiadau i'r fynedfa bresennol, creu mynedfa newydd a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir i’r Gogledd-Ddwyrain o Gwêl y Llan, Llandegfan
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 FPL/2024/7 – Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â tirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn 107-113, 116-122, 133-152 Ystâd Tan y Bryn, Y Fali
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FPL/2024/78 – Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â tirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn Fflatiau Bron Heulog, Y Fali
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2024/29 – Cais llawn ar gyfer creu parc cyhoeddus yn cynnwys gwaith tirlunio caled a meddal, lle chwarae, codi strwythurau, rheoleiddio llwybrau troed presennol, creu llwybrau troed newydd a llwybrau pren ynghyd ag adeiladu lle parcio anabl ar dir ym Mhorth Amlwch
PENDERFYNWYD dirprwyo pwerau i’r Swyddogion i’w galluogi i ddelio ag unrhyw geisiadau i ryddhau amodau cyn dechrau ac yn amodol ar dderbyn ac ystyried yr Arolwg Ymlusgiaid sy’n weddill cyn belled nad yw’n peri’r angen am ddiwygiadau sylweddol neu faterol i’r cais.
Cofnodion:
12.1 FPL/2024/105 – Cais llawn i godi 30 o anheddau preswyl (100% o unedau tai fforddiadwy), newidiadau i'r fynedfa bresennol, creu mynedfa newydd a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir i’r Gogledd-Ddwyrain o Gwêl y Llan, Llandegfan
Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol am ymweliad safle oherwydd pryderon y Cyngor Cymuned a thrigolion lleol ynglŷn â’r fynedfa a phroblemau traffig yn enwedig yn ystod y gwaith adeiladu. Mae’r datblygwr wedi cadarnhau yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd yn lleol y bydd y datblygiad yn cymryd hyd at 2 flynedd i’w gwblhau ac y bydd y gwaith yn cael effaith sylweddol ar yr ystâd dai gerllaw.
Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod ymweliad safle’n cael ei gynnal yn unol â chais yr Aelod Lleol. Eiliwyd y cynnig i gynnal ymweliad safle gan y Cynghorydd Neville Evans.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 FPL/2024/7 - Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â thirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn 107-113, 116-122, 133-152 Ystâd Tan y Bryn, Y Fali
Fe wnaeth y Cynghorydd Ken Taylor ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn ymwneud ag eiddo Cyngor Sir Ynys Môn.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â saith bloc o fflatiau ar ystâd Tan y Bryn, sydd oddi mewn i ffin ddatblygu’r Fali. Dyma i gais i adnewyddu’r fflatiau a gosod paneli solar ar y toeau ynghyd â gwaith tirweddu caled a gwaith cysylltiedig. Mae’r gwaith allanol yn cynnwys inswleiddio’r waliau a gosod toeau llechi a drysau a ffenestri newydd. Bydd y gwaith yn gwella a moderneiddio edrychiad y fflatiau, a bydd yn cael ei gwblhau i safon uchel gan ddefnyddio deunyddiau a fydd yn sicrhau bod y fflatiau’n gweddu â’r hyn sydd o’u cwmpas. Bydd tri deg dau o baneli solar yn cael eu gosod ar do pob bloc o fflatiau, naill ar y drychiad blaen neu’r cefn, gan ddibynnu ar ba ochr sy’n cael mwy o haul. Bydd hyn yn gwella cynaliadwyedd yr eiddo ac yn darparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy newydd. Bydd y gwaith tirweddu yn cynnwys cael gwared ar y ffensys rhwyll, paneli pren a rheiliau dur. Bydd ffensys pren 1.8m o uchder yn cael eu codi, ynghyd â llwybrau concrid a storfa finiau newydd. Bydd hyn yn gwella edrychiad y safle a’r ardal. Mae’r safle mewn ardal adeiledig, ac mae nifer o dai gerllaw’r blociau fflatiau. Bydd y gwaith yn gwella drychiad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12