Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 06/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 FPL/2024/76 – Tir i’r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll

FPL/2024/76

 

7.2 – FPL/2024/105 - Tir i'r Gogledd-Ddwyrain o Gwel y Llan, Llandegfan

FPL/2024/105

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1 - FPL/2024/76 Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i'r Gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar arwyddo Cytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a chyfraniad mannau agored.

 

7.2 - FPL/2024/105 Cais llawn i godi 30 o anheddau preswyl (100% o unedau tai fforddiadwy), newidiadau i'r fynedfa bresennol, creu mynedfa newydd a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar Dir i'r Gogledd-Ddwyrain o Gwêl y Llan, Llandegfan.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar arwyddo Cytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy, cyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau addysgol a mannau agored ynghyd â chyfraniad ariannol ar gyfer gwella hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal leol. 

Cofnodion:

7.1 FPL/2024/76 – Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirweddu, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i'r Gogledd o ystâd Y Garnedd, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2024, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2024.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod ac yn pleidleisio ar y mater. Cadeiriwyd yr eitem gan y Cynghorydd Neville Evans, Is-gadeirydd y cyfarfod.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Sioned Edwards, Cadnant Planning i gefnogi'r cais gan ddweud y byddai'r tai arfaethedig yn cael eu datblygu gan DU Construction ar ran Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a fyddai'n berchen ar yr eiddo. Byddai pob un o'r 27 annedd yn fforddiadwy a byddent ar gael i'w rhentu ar sail fforddiadwy. Ni fyddai'r anheddau ar gael i'w gwerthu ond byddent yn parhau i fod ym mherchnogaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn. Mae safle'r cais y tu allan ond yn union gerllaw ffin ddatblygu Llanfairpwll ac o'r herwydd caiff ei asesu fel safle eithriedig dan Bolisi TAI 16 sy'n cefnogi ceisiadau am dai fforddiadwy y tu allan ond gerllaw ffiniau aneddiadau ar yr amod eu bod hefyd yn diwallu angen lleol am dai na ellir ei ddiwallu fel arall ar safleoedd o fewn y ffin o fewn amserlen resymol. Yn ystod oes y CDLl o 2011 hyd heddiw, datblygwyd dau dŷ fforddiadwy yn Llanfairpwll ac ar hyn o bryd nid oes caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw dai fforddiadwy ychwanegol yn y pentref. Mae ffigyrau anghenion tai ar gyfer Llanfairpwll yn dangos angen sylweddol am dai ac mae'r diffyg tai fforddiadwy a ddarparwyd dros y 13 mlynedd diwethaf yn ogystal â chynnydd ym mhrisiau tai a chynnydd bach mewn cyflogau wedi cyfrannu ato. Mae'r angen am dai fforddiadwy yn enwedig unedau dwy a thair ystafell wely yn cynyddu fesul blwyddyn fel y dengys data tai Gwasanaeth Tai'r Cyngor a'r Asesiad Anghenion Tai a gynhaliwyd gan yr Hwylusydd Tai Gwledig yn 2021. Byddai'r cynnig a'r cymysgedd o unedau tai y bwriedir eu codi’n gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiwallu'r angen hwn am dai.

 

Cyfeiriodd Ms Edwards at ystyriaethau traffig gan gadarnhau bod trafodaethau helaeth wedi'u cynnal gyda'r Adran Priffyrdd cyn ac yn ystod y cyfnod ymgysylltu gyda mynediad drwy ystâd y Garnedd wedi cael ei drafod i ddechrau yn 2020. Nid oes unrhyw wrthwynebiadau mewn egwyddor i'r cynnig o safbwynt priffyrdd a thraffig. Mae Llanfairpwll yn lleoliad hawdd ei gyrraedd o ran trafnidiaeth gyhoeddus ac mae safle'r cais o fewn pellter cerdded i gyfleusterau lleol. Mae'r Adroddiad Traffig a gyflwynwyd gyda'r cais yn cadarnhau nad oes unrhyw ddamweiniau wedi'u cofnodi yn nalgylch y safle yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac ni fyddai cynnydd sylweddol mewn symudiadau traffig o ganlyniad i'r cynnig. Felly ni ddisgwylir unrhyw effaith sylweddol ar y rhwydwaith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7