12 Gweddill y Ceisiadau PDF 3 MB
12.1 – ADV/2024/7 - Cartref Gofal Preswyl Brwynog, Madyn Dysw, Amlwch
12.2 – FPL/2024/263 - Canolfan Ieuenctid a Chymuned Jesse Hughes, Ffordd Kingsland, Caergybi
12.3 – FPL/2024/254 - Ysgol Gynradd Llangoed, Llangoed
12.4 – HHP/2024/139 – Gwynedd, Ffordd Warren, Rhosneigr
12.5 – FPL/2024/232 - Cae Pêl Droed, Llannerchymedd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 ADV/2024/7 - Cais i leoli tri arwydd heb ei oleuo yng Nghartref Gofal Preswyl Brwynog, Madyn Dysw, Amlwch
12.2 FPL/2024/263 – Cais llawn ar gyfer gosod net pêl 2 medr o uchder uwchben y ffens presennol yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymuned Jesse Hughes, Ffordd Kingsland, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FPL/2024/254 – Cais llawn ar gyfer adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant yn Ysgol Gynradd Llangoed, Llangoed
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddirprwyo’r awdurdod i’r Swyddog i benderfynu ar y cais yn dilyn derbyn gwybodaeth bellach a diwygiadau i’r cynlluniau fel y gofynnwyd amdanynt gan yr Awdurdod Priffyrdd.
12.4 HHP/2024/139 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys dymchwel ynghyd ac gosod paneli solar ac pwmp gwres ffynhonnell aer yn Gwynedd, Warren Road, Rhosneigr.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 FPL/2024/232 – Cais llawn i greu llwybr concrit i gysylltu y cau pêl-droed oedolion ac ieuenctid yn Lleoliad: Cae Pêl Droed, Llanerchymedd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
12.1 ADV/2024/7 – Cais i osod tri arwydd heb eu goleuo yng Nghartref Gofal Preswyl Brwynog, Madyn Dysw, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer tri arwydd dwyieithog heb eu goleuo yng Nghartref Gofal Preswyl Brwynog a chyfeiriodd at fanylion yr arwyddion fel y nodir yn adroddiad y Swyddog. Disgrifiodd y cynnig fel datblygiad ar raddfa fach o ddyluniad a graddfa briodol i sicrhau ei fod yn cael ei integreiddio o fewn y safle ac na fyddent yn cael unrhyw effaith ar eiddo, y ffyrdd na'r ardal gerllaw. Felly argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2024/263 - Cais llawn ar gyfer gosod rhwyd 2 metr o uchder uwchben y ffens bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymuned Jesse Hughes, Ffordd Kingsland, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cynnwys safle sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai'r bwriad yw gosod rhwyd 2m o uchder uwchben ochr ddeheuol y ffens 3m bresennol o amgylch yr ardal gemau amlddefnydd yng Nghanolfan Jesse Hughes i atal peli rhag mynd i erddi cefn yr eiddo ar Ffordd y Brenin. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar yr ardal na’r eiddo gerllaw. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FPL/2024/254 – Cais llawn ar gyfer adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant yn Ysgol Gynradd Llangoed, Llangoed
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.
Disgrifiodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cynnig a'r safle a dywedodd fod yr adeilad gofal plant arfaethedig a lleoliad, graddfa, dyluniad ac edrychiad y maes parcio yn cael eu hystyried yn dderbyniol ac na fyddant yn cael unrhyw effaith negyddol ar y safle presennol nac ar yr eiddo neu'r ardal gerllaw. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Geraint Bebb.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddirprwyo’r awdurdod i’r Swyddog i benderfynu ar y cais ar ôl derbyn gwybodaeth bellach a newidiadau i’r cynlluniau fel y gofynnwyd amdanynt gan yr Awdurdod Priffyrdd.
12.4 HHP/204/139 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys dymchwel ynghyd a gosod paneli solar a phwmp gwres o'r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12