12 Gweddill y Ceisiadau
PDF 1 MB
12.1 – FPL/2024/230 – Mona House, Ffordd Caergybi, Gwalchmai
12.2 – FPL/2024/65 – Bryn Cwr, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2024/230 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd llawr gwaelod presennol yr annedd i fod yn rhan o’r siop bresennol (defnydd A1) ym Mona House, Ffordd Caergybi, Gwalchmai
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 FPL/2024/65 – Cais ôl-weithredol ar gyfer adeiladu lagŵn slyri ar dir ger Bryn Cwr, Gwalchmai
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
Cofnodion:
12.1 FPL/2024/230 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd llawr gwaelod presennol yr annedd i fod yn rhan o’r siop bresennol (defnydd A1) ym Mona House, Ffordd Caergybi, Gwalchmai
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon y Cyngor Cymuned ynglŷn â phroblemau parcio.
Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis y dylid cynnal ymweliad safle. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Ll Hughes MBE.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 FPL/2024/65 – Cais ôl-weithredol ar gyfer adeiladu lagŵn slyri ar dir ger Bryn Cwr, Gwalchmai
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol oherwydd pryderon gan y Cyngor Cymuned ynglŷn â materion diogelwch gan fod y safle’n agos at gae chwarae, yn ogystal â phryderon am arogleuon drwg o’r safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis y dylid cynnal ymweliad safle. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.