Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 05/02/2025 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 647 KB

12.1 – FPL/2024/304 – Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi.

FPL/2024/304

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  FPL/2024/304 – Cais llawn ar gyfer creu ardal parcio, llwybr troed a llwybr beicio yn Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.  

Cofnodion:

12.1       FPL/2024/304 – Cais llawn ar gyfer creu ardal parcio, llwybr troed a llwybr beicio ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys safle sy’n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer mannau parcio, llwybr troed a llwybr beicio ym Mharc y Morglawdd, Caergybi.  Mae’r llwybr cerdded a beicio presennol yn rhedeg cyfochr â’r ffordd fynediad ac yn terfynu cyn y giât fynedfa i Barc Gwledig y Morglawdd.  Fel rhan o’r cais hwn, bydd y llwybr yn cael ei ymestyn oddeutu 150m i’r gorllewin, gan arwain at brif hwb y parc gwledig.  Bydd yn llwybr 3m o led, wedi’i adeiladu gan ddefnyddio graean rhydd i gyd-fynd â’r llwybr presennol.  Bydd y gwaith yn cynnwys adleoli arwydd ger mynediad y safle, man croesi i gerddwyr a thynnu rhai planhigion.  Yn ogystal â’r llwybr cerdded a beicio, bydd deuddeg man parcio newydd yn cael eu creu ar yr ardal wair ar hyd y ffordd, i’r dwyrain o bedwar man parcio sydd eisoes ar ochr y ffordd.  Bydd gweirgloddiau blodau gwyllt yn cael eu creu a’i rheoli yn y cae cyfagos.  Mae Ymgynghorydd Ecoleg y Cyngor yn fodlon â’r cynnig, oherwydd bydd yn cynnig gwelliannau i fioamrywiaeth.  Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddynt wrthwynebiad i’r cynnig, cyn belled a bo Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei gyflwyno gan fod y ffordd o Draeth Newry i’r Parc Gweledig yn gul. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes, a fel Aelod Lleol, ei fod yn croesawu’r cynnig gan y bydd yn estyniad naturiol i’r hyn sydd eisoes yn cael ei ddarparu ar y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, a fel Aelod Lleol, ei fod yn cefnogi’r cais gan fod Parc Gwledig y Morglawdd yn safle poblogaidd i bobl leol ac ymwelwyr.  Cyfeiriodd at y deuddeg man parcio fydd yn cael eu creu, a gofynnodd a ellid defnyddio concrid ‘grasscrete’ yn hytrach na tharmac.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai angen ymgynghoriad pellach i newid y cynlluniau ar gyfer y datblygiad, a gan fod y cynnig hwn yn ddibynnol ar gyllid grant, mae risg o golli’r arian hwnnw.  Dywedodd y byddai defnyddio tarmac i orffen y deuddeg man parcio yn creu arwyneb tebyg i’r ffordd bresennol a’r pedwar man parcio sydd eisoes yno. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod hefyd yn cefnogi’r cais, fodd bynnag, dywedodd fod problem gyda’r ponciau arafu (speedbumps) sy’n arwain at Barc Gwledig y Morglawdd am eu bod yn rhy uchel, a gofynnodd a fydd problemau pellach ynghlwm â chreu deuddeg man parcio ychwanegol yn y parc.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y ffordd sy’n arwain at y parc yn briffordd ddi-ddosbarth, ac mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cyfyngu rheolaeth dros y ffordd, a dylid codi’r mater gyda Rheolwr Parc Gwledig y Morglawdd.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12